Ebrill 2026
Y thema gyffredinol ar gyfer cyfarfod y panel ym mis Ebrill oedd ymosod ar weithwyr brys. Craffodd y panel ar y thema hon yn flaenorol yn 2023, fodd bynnag, cytunodd y panel i ailedrych ar y thema i ddeall sut roedd troseddau o’r math hwn yn cael eu trin drwy Benderfyniadau Y Tu Allan i’r Llys yng ngoleuni’r newidiadau diweddar i ganllawiau cyhuddo Gwasanaeth Erlyn y Goron
Mae’r canllawiau newydd yn caniatáu ystyried ystod o droseddau sydd ar gael wrth gyhuddo ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys. Nod y newid hwn yw cyflymu cyfiawnder drwy sicrhau bod cyhuddiadau’n adlewyrchu difrifoldeb yr achos, gan alluogi mwy o achosion i aros mewn Llysoedd Ynadon er mwyn cael cyfiawnder cyflymach, yn ogystal â chaniatáu defnyddio cyhuddiadau mwy difrifol pan fo hynny’n briodol.
Hwn oedd cyfarfod cyntaf y Panel Craffu ar Benderfyniadau y Tu Allan i’r Llys i Oedolion ar ôl iddo uno â’r Panel Craffu ar Rybuddio a Cham-drin mewn Perthynas (CARA). Fel y cytunwyd, ochr yn ochr ag achosion o ymosod ar weithwyr brys, craffodd y panel hefyd ar achosion a oedd yn ymwneud ag ymyrraeth CARA ar gyfer troseddau cam-drin domestig. Adolygodd y panel chwe achos yn ymwneud ag ymosodiadau ar weithwyr brys a thri achos o gam-drin domestig a oedd yn cynnwys ymyrraeth CARA. Dewiswyd achosion yn gyfartal o Gaerdydd a Bro Morgannwg, Morgannwg Ganol, ac Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Ceir trosolwg o’r canfyddiadau allweddol a’r adborth gan y Panel yn y ffeithlun ac maent wedi’u huwchgyfeirio’n briodol yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru.
Canfyddiadau PanelGorffennaf 2026
Y thema gyffredinol ar gyfer cyfarfod y panel ym mis Gorffennaf oedd siopladrata. Dewiswyd y thema hon oherwydd yr achosion o droseddau siopladrata a’r ffocws parhaus ar ddeall sut mae Penderfyniadau y Tu Allan i’r Llys yn cael eu defnyddio ar gyfer y math hwn o droseddu.
Ochr yn ochr ag achosion o siopladrata, craffodd y panel hefyd ar achosion a oedd yn ymwneud ag ymyrraeth CARA ar gyfer troseddau cam-drin domestig. Adolygodd y panel chwe achos o siopladrata a thri achos o gam-drin domestig yn ymwneud ag ymyrraeth CARA.
Ceir trosolwg o’r canfyddiadau allweddol a’r adborth gan y Panel yn y ffeithlun ac maent wedi’u huwchgyfeirio’n briodol.
Cyflwynodd Heddlu De Cymru ddata a oedd yn ymwneud â throseddau siopladrata y triniwyd â nhw drwy Benderfyniad y Tu Allan i’r Llys dros y cyfnod 1/1/26-30/6/26. Ochr yn ochr â data cyffredinol sy’n nodi faint o Benderfyniadau y Tu Allan i’r Llys a roddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw, nodwyd hefyd fod mwy o fenywod na dynion yn cael Penderfyniad y Tu Allan i’r Llys am droseddau siopladrata (48 a 35). Roedd yn gadarnhaol clywed bod Gwasanaethau Cyfiawnder Heddlu De Cymru wedi dargyfeirio nifer o’r menywod hyn o gyrsiau addysg i’r gwasanaeth One Wales. Nid oedd y gwahaniaeth posibl hwn rhwng y rhyweddau yn amlwg wrth graffu ar yr achosion. Yn dilyn sgyrsiau dilynol rhwng Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru, bydd adolygiad o’r data ehangach ynghylch siopladrata i benderfynu a oes unrhyw sylwadau i’w gwneud ynghylch anghymesuredd rhwng y rhyweddau.
Canfyddiadau Panel