Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.comisiynydddecymru.org.uk/.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2, am fod cynnwys nad yw’n hygyrch a’r eithriadau a restrir isod.

Mae’r wefan yn bodloni gofynion hygyrchedd yn sylweddol. Mae gweddill y materion hygyrchedd yn gyfyngedig. 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

(a) Diffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau hygyrchedd

Cynnwys trydydd parti wedi’i ymgorffori (Flipsnack)

Mae gan yr hafan gynnwys wedi’i ymgorffori a ddarperir gan Flipsnack, llwyfan trydydd parti a ddefnyddir i arddangos cyhoeddiadau digidol. Nid yw’r sefydliad yn rheoli cod sylfaenol y cynnwys wedi’i ymgorffori hwn. 

Nid yw’r cynnwys wedi’i ymgorffori yn cyrraedd safonau AA 2.1/2/2 WCAG. Mae’r materion a nodwyd yn cynnwys:

  • WCAG 1.4.3 Cyferbyniad (Sylfaenol): Nid yw’r holl destun o fewn y syllwr yn bodoli’r gofynion sylfaenol o ran cyferbyniad rhwng lliwiau. 
  • WCAG 1.4.4 Newid Maint y Testun: Mae’r nodwedd chwyddo wedi’i gyfyngu o fewn y syllwr wedi’i ymgorffori. 
  • WCAG 1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun: Mae’n bosibl nad yw rhai lluniau yn cynnwys testun amgen addas na rolau llun. 
  • WCAG 2.4.4 Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun): Mae’n bosibl nad yw rhai dolenni yn cynnwys testun gweladwy na disgrifiadol. 
  • WCAG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth:
    • Mae’n bosibl nad oes gan rai elfennau SVG labeli hygyrch fel aria-label. 
    • Mae’n bosibl bod rhai elfennau yn cynnwys IDs dyblyg. 
    • Mae’n bosibl nad yw rhai elfennau iframe yn cynnwys priodweddau teitl disgrifiadol.

Lluniau â thestun wedi’i droshaenu – tudalen Cysylltu â ni

Ar y dudalen “Cysylltu â ni”, mae llun sy’n cynnwys testun wedi’i droshaenu (graffig map). Nid yw’r cyferbyniad rhwng y testun a’r cefndir yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1 (Cyferbyniad – Sylfaenol).

Gan fod y testun wedi’i ymgorffori o fewn llun, mae’n bosibl y bydd defnyddwyr yn cael trafferth yn newid ei faint neu ei ddarllen yr wybodaeth yn glir gan ddefnyddio technolegau cynorthwyol. 

Lluniau â thestun pennawd wedi’i droshaenu – tudalen PALG

Ar dudalen “PALG”, ceir graffig sy’n cynnwys sawl logo ar gefndir gwyn â phennawd wedi’i droshaenu mewn testun gwyn. 

Nid yw testun y pennawd yn bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer cyferbyniad o dan Faen Prawf Llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, sy’n ei wneud yn anodd i rai defnyddwyr ei ddarllen. Gan fod y pennawd yn rhan o’r llun, mae’n bosibl y bydd defnyddwyr yn cael trafferth yn newid ei faint neu’n cael mynediad at y testun hwn drwy dechnolegau cynorthwyol. 

(b) Baich anghymesur

Nid oes cynnwys wedi’i ddatgan ar hyn o bryd o dan yr eithriad baich anghymesur.

(c) Cynnwys nad yw’n rhan o gwmpas rheoliadau hygyrchedd

Efallai nad yw rhai dogfennau PDF hŷn a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2018 yn gwbl hygyrch. Mae’r dogfennau hyn wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.

Lle bo hynny’n bosibl, darperir fersiynau hygyrch o ddogfennau pwysig. Os bydd angen gwybodaeth mewn fformat amgen arnoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod. 

Cynnwys dwyieithog

Rydym yn bwriadu ysgrifennu cynnwys mewn Saesneg clir, plaen. 

Mae’r wefan hon hefyd ar gael yn Gymraeg. Caiff cynnwys Cymraeg ei gyfieithu’n broffesiynol gan gyfieithwyr dynol i sicrhau cywirdeb ac eglurdeb.

Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Chwefror 2026.

Gwerthuswyd cydymffurfiaeth â hygyrchedd drwy gyfuniad o brofi hygyrchedd awtomataidd ac adolygu â llaw, gan gynnwys:

  • Profion archwilio Google Lighthouse
  • Ategyn profi hygyrchedd ARC
  • Ategyn profi hygyrchedd WAVE

Y tro diwethaf yr adolygwyd y datganiad oedd 23 Chwefror 2026. Awgrymir bod y datganiad hwn yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn neu’n dilyn newidiadau sylweddol i’r wefan. 

Gwybodaeth adborth a chysylltu

Os byddwch yn dod ar draws rhwystrau hygyrchedd neu y bydd angen cynnwys mewn fformat gwahanol arnoch (er enghraifft, braille, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Iaith Arwyddion Prydain):

E-bost: commissioner@south-wales.police.uk
Ffôn: 01656 869366
Cyfeiriad: Tŷ Morgannwg, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU, y Deyrnas Unedig

Dylech gynnwys cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys sydd ei angen arnoch, y fformat sydd ei angen arnoch, ac unrhyw dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio. Anelwn at ymateb i geisiadau hygyrchedd o fewn 15 diwrnod gwaith. 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym yn gweithio’n barhaus i wella hygyrchedd. Cysylltwch â ni os byddwch yn dod ar draws problemau nad ydynt wedi’u rhestru yn y datganiad hwn, neu os byddwch yn credu nad ydym yn cydymffurfio â gofynion hygyrchedd. 

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. 

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb i gael cyngor a chymorth.