Swyddogaethau Penodol y Bwrdd:
Monitro cynnydd a pherfformiad drwy eithriad, gan adrodd yn erbyn:
- Cynllun yr Heddlu a Throseddu
- Y Gyllideb a’r Rhaglen Gyfalaf
- Y Strategaeth Cronfeydd wrth Gefn
- Y Strategaeth Gomisiynu
- Cynllun Cyfathrebu Strategol
- Strategaeth Partneriaeth
- Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu
- Cofrestrau o Risgiau ac Ansicrwydd Corfforaethol
- Strategaeth Ystâd
- Strategaeth TGCh
- Cynllun Caffael Blynyddol
Derbyn diweddariadau a monitro cynnydd yn erbyn Cynllun Heddlu a Throseddu’r Comisiynydd a Chynllun Cyflawni’r Prif Gwnstabl.
Cael materion y cytunwyd y byddent yn cael eu huwchgyfeirio gan Gyd-fyrddau mewnol eraill a/neu Grŵp Aur y Prif Gwnstabl, gan gynnwys materion yn ymwneud â’r sefyllfa ariannol, argymhellion Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi a phrosiectau/rhaglenni newid perthnasol.
Derbyn y canlyniadau a ddeillir o’r rhaglen craffu thematig a drefnwyd, a gaiff ei chynnal gan y Bwrdd Craffu ac Atebolrwydd, gan gytuno ar gamau gweithredu neu gynnig rhai lle y bo’n briodol gwneud hynny.
Adolygu a chytuno ar unrhyw newidiadau i’r Llawlyfr Llywodraethu ar y cyd.
Trafod partneriaeth a chydweithio gyda’r sector cyhoeddus ehangach, er budd effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd plismona.
Cael diweddariadau ar faterion neu ddigwyddiadau lleol neu genedlaethol a all gael effaith ar blismona a chymunedau De Cymru.
Gwneud penderfyniadau nad ydynt yn benderfynadwy mewn mannau eraill, yn unol â deddfwriaeth neu’r Cynllun Cydsynio a Dirprwyo.
Gweithredu er budd y cyhoedd, ystyried sut y gall perfformiad a darpariaeth gwasanaeth gael effaith ar y cyhoedd, gan gynnwys dioddefwyr troseddau.
Amlygu Adroddiadau
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau