Gan weithredu fel pont rhwng y cyhoedd a’r heddlu, mae’r Comisiynydd gyda chyfrifoldeb i ddeall safbwyntiau a phrofiadau pobl mewn perthynas â phlismona yn Ne Cymru.

Mae gweld sut mae pethau’n gweithio ar lawr gwlad a siarad â phobl leol yn galluogi’r Comisiynydd i adlewyrchu safbwyntiau a phrofiadau cymunedau lleol mewn ffordd gredadwy a sicrhau bod asiantaethau plismona a chyfiawnder troseddol yn cael eu dwyn i gyfrif am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Ein nod yw:

  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth leol: Mae cyfarfod â phobl leol a gweld sut mae pethau’n gweithio ar lawr gwlad, yn ein helpu i wneud penderfyniadau, awgrymu atebion a dylanwadu ar bolisïau;
  • Monitro barn y cyhoedd: Deall unrhyw newidiadau neu amrywiadau lleol yn y pethau sy’n bwysig i bobl mewn perthynas â materion troseddu a phlismona
  • Cynyddu dealltwriaeth: Gwella dealltwriaeth pobl o rôl ac effaith Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r ffordd y gall y rôl hon roi mwy o lais i chi ym maes plismona

Mae cynnal cysylltiadau cymunedol a gweithio gyda’n gilydd yn galluogi’s Commisiynydd i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar wybodaeth, awgrymu atebion a dylanwadu ar bolisïau er budd pennaf ein cymunedau.

Mae’n hanfodol bwysig bod y cyhoedd yn parhau i hysbysu ein gwaith ac mae’r Comisiynydd yn ymrwymedig i sicrhau bod ein hymgysylltiad yn parhau i fod yn ystyrlon ac yn gynhwysol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae rhaglen gyfathrebu a chyfranogiad penodol wedi cael ei datblygu i ymestyn i drigolion, genedlaethau, grwpiau ethnig a diwylliannau gwahanol a phobl â phrofiadau bywyd amrywiol, er mwyn i amrywiaeth eang o safbwyntiau allu cael eu clywed.

Darganfyddwch ragor am sut mae hyn yn cael ei gyflwyno isod:

PCC gyda chynghorydd lleol Barry

Yn Eich Cymuned

Ymwelwyr ymroddedig yn y gymuned

In Your Community
Commissioner Emma Wools speaking with pupils

Ymgysylltu a Phlant a Phobl Ifanc

Gosod anghenion, syniadau, a blaenoriaethau plant a phobl ifanc yng nghanol ein gwaith.

Engaging with children and young people

Arolygon cymunedol

Ceisio adborth am blismona lleol

Community Surveys