Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder De Cymru 2025-29

 

“Pan gefais fy ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru y llynedd, ymrwymais i weithio bob dydd i ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd, dysgu a chydweithio i gyflawni dros bobl De Cymru. Mae Cynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi’n union sut y byddwn yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.”

“Rydym wedi datblygu pum blaenoriaeth uchelgeisiol, mewn ymgynghoriad â’n sefydliadau partner, busnesau lleol, sefydliadau anllywodraethol a’r cyhoedd, i greu’r De Cymru diogel, teg a chynhwysol y mae pob un ohonom am ei weld. Mae pob un o’r pum blaenoriaeth sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun yn seiliedig ar yr hyn rydych chi, y cyhoedd, wedi dweud wrthym eich bod am i Heddlu De Cymru ganolbwyntio arno, ac yn bwysicaf oll, yn dangos sut y byddwn yn gwneud hynny.”

“Mae Cynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder yn nodi’r llwybr tuag at greu De Cymru diogel, teg a chynhwysol i bawb yn fanwl. Mae’r Cynllun yn amlinellu’r ffordd y byddwn yn rhoi mesurau diogelu’r cyhoedd hollbwysig ar waith, yn ogystal â gwasanaethau cymorth hanfodol ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, a sut y byddwn yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu, yn sicrhau cyfiawnder ac yn gwneud yn siŵr bod De Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol.”

“Rwy’n uchelgeisiol dros Dde Cymru ac mae fy nghynllun yn dangos fy ymrwymiad i ddarparu’r gwasanaethau hollbwysig ac i sicrhau’r diogelwch sydd ei angen ar y cyhoedd ac y maent yn ei ddisgwyl gan yr heddlu. Bydd fy nghynllun yn sicrhau’r union bethau hwnnw.