Mae Adran 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn rhoi’r hawl i unigolyn wneud cais am gopi o’r wybodaeth y mae sefydliad yn ei chadw amdano – gelwir hyn yn hawl cais gwrthrych am wybodaeth. Os ydych am gael gwybod pa wybodaeth amdanoch sy’n cael ei chadw gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, gallwch gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth yn gofyn am eich data personol.
Dim ond data a ddelir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru y bydd y cais hwn i ddatgelu gwybodaeth yn eu cwmpasu. Ni fydd yn cwmpasu unrhyw ddata a ddelir gan Heddlu De Cymru, Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu nac unrhyw system arall sy’n perthyn i’r heddlu. Os bydd angen gwybodaeth arnoch y gallai Heddlu De Cymru fod yn ei dal, megis eich cofnod heddlu, neu wybodaeth sy’n ymwneud â digwyddiad penodol yr oeddech yn rhan ohono, bydd angen i chi gyfeirio eich Cais Gwrthrych am Wybodaeth at Heddlu De Cymru drwy glicio yma.
O dan hawl cais gwrthrych am wybodaeth, nid oes gennych hawl i gael gwybodaeth sy’n ymwneud â phobl eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen cyflwyno dau ddull adnabod wrth gyflwyno Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun er mwyn i’r cais gael ei brosesu. Mae’n bwysig cadarnhau hunaniaeth yr unigolyn sy’n gwneud y cais er mwyn sicrhau mai i destun y data y caiff y data personol eu datgelu, ac nid i rywun sy’n ei ddynwared.
Sut y gallaf wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth
Er mwyn cyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth dilys i gael eich data personol i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, gwnewch y canlynol:
- Llenwch y ffurflen gais sydd i’w gweld ar waelod y dudalen honCais Gwrthrych Am Wybodaeth
- Darparu llungopïau o’ch dogfennaeth adnabod – gan ddarparu eich enw, cyfeiriad presennol a’ch dyddiad geni
- Dychwelwch y cais i swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn y cyfeiriad isod.
Unwaith y ceir Cais Gwrthrych am Wybodaeth dilys, mae dyletswydd gyfreithiol ar swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ymateb i’r ymgeisydd o fewn 1 mis.
Manylion Cyswllt
Anfonwch eich cais wedi’i gwblhau i:
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Swyddog Diogelu Data,
Pencadlys yr Heddlu,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 3SU
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â pha wybodaeth rydych yn gymwys i’w chael cyn cyflwyno’ch cais, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 01656 869366.
Dogfennau Defnyddiol
Gellir dod o hyd i ragor o ddogfennau a gwybodaeth yn ein hadran adnoddau
Adnoddau