Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i chi ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym ar gofnod ar unrhyw bwnc.
Noder, mewn perthynas â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth, fod Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn ddau endid ar wahân; felly os gwneir cais i un ohonynt, nid cyfrifoldeb y llall yw diweddaru, ymateb na datgelu’r mater.
Os hoffech wneud cais Rhyddid Gwybodaeth i Heddlu De Cymru neu weld eu datgeliadau blaenorol, cliciwch yma.
Efallai na fydd gwybodaeth sensitif ar gael i aelodau’r cyhoedd. Os felly, byddwn yn dweud wrthych pam yr ydym wedi atal ychydig o’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani, neu’r holl wybodaeth.
Mae’n holl ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn y logiau datgelu.
Rydym yn awyddus i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Felly, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar y wefan hon yn rheolaidd o dan y ddewislen ‘Tryloywder’, a thrwy wneud hynny, rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan gynllun cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdani ar y wefan, gallwch gyflwyno cais i ni. Rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig, naill ai trwy’r post, ar e-bost neu ar-lein. Mae gennym 20 diwrnod gwaith i ymateb i geisiadau.
Y Comisiynydd Gwybodaeth sy’n darparu manylion llawn am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Daw’r cyngor canlynol o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef rheoleiddiwr y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOIA) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Ydych chi’n defnyddio AI er mwyn helpu i ddrafftio ceisiadau am wybodaeth?
Gall adnoddau AI fod yn ddefnyddiol, ond gallant hefyd gyflwyno gwallau neu greu ceisiadau hynod gymhleth sy’n cynyddu’r pwysau ar gyrff cyhoeddus a’r gost i drethdalwyr.
Wrth ddefnyddio AI er mwyn helpu i ddrafftio cais am wybodaeth, gwnewch yn siŵr bod y geiriad terfynol wedi cael ei wirio a’i fod yn adlewyrchu eich gwir anghenion gwybodaeth.
Cyn i chi gyflwyno cais neu ohebiaeth eilaidd, gwiriwch y canlynol:
Rydych ond yn gofyn am y wybodaeth rydych wir yn chwilio amdani.
Gall adnoddau AI weithiau gynhyrchu geiriad bras neu ormodol sy’n mynd y tu hwnt i’r wybodaeth yr hoffech ei chael neu sydd ei hangen arnoch;
Mae’r cais yn glir, yn gryno ac â ffocws.
Mae ceisiadau byr a syml yn haws i ni eu prosesu ac fel arfer yn arwain at ymatebion cyflymach a mwy cywir;
Nid oes unrhyw anghywirdebau ffeithiol amlwg.
Gall AI gam-gynrychioli deddfwriaeth neu gamddatgan yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud. Darllenwch destun eich cais yn ofalus a pheidiwch â chymryd yn ganiataol bod AI yn gywir. Os yw wedi cyfeirio at rywbeth nad ydych yn ei ddeall, edrychwch i weld beth ydyw; a
Sicrhau bod y tôn yn briodol.
Gall cynnwys a gynhyrchwyd gan AI weithiau swnio’n swta neu yn amhriodol fel arall. Gwiriwch y tôn cyn anfon eich cais.
Pam mae hyn yn bwysig?
Rydym yn gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau a gohebiaeth eilaidd sy’n ymddangos fel petaent wedi cael eu drafftio gan AI cynhyrchiol. Gall fod angen eglurhad ychwanegol arnynt oherwydd anghywirdebau neu gymhlethdodau diangen. Mae hyn yn arwain at oedi i’r sawl a wnaeth y cais a’n timau.
Oes angen arweiniad arnoch?
Gallwch ddod o hyd i gyngor ar wneud ceisiadau effeithiol am wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Dogfennau Defnyddiol
Gellir dod o hyd i ragor o ddogfennau a gwybodaeth yn ein hadran adnoddau
Adnoddau