Emma Wools
Gomisiynydd yr Heddlu a ThrosedduMae Emma Wools yn ei thymor cyntaf fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, ar ôl cael ei hethol ar 3 Mai 2024, gan ennill 45.2% o bleidleisiau'r cyhoedd.
Mitch Theaker
Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a ThrosedduFel Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rôl Mitch yw cynorthwyo'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu gyda'i blaenoriaethau a sicrhau bod y gwasanaeth heddlu yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.
Lee Jones
Prif Weithredwr & Swyddog MonitroLee yw Pennaeth y gwasanaeth cyflogedig a'r Swyddog Monitro, ef sy'n gyfrifol am sicrhau bod y dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni.
David Holloway-Young
Prif Swyddog AriannolYn gyfrifol am sicrhau y craffir ar drefniadau Rheolaeth Ariannol yr Heddlu yn effeithiol ar ran y Comisiynydd. Yn gweithredu fel cynghorydd ariannol y Comisiynydd, gan sicrhau bod y lefel praesept yn gymesur a bod trefniadau rheolaeth ariannol cadarn ar waith mewn perthynas â chyllidebau'r Comisiynydd.
Dr Cerys Miles
Cyfarwyddwr Cymunedau, Partneriaethau ac Atal TrosedduFel Cyfarwyddwr Cymunedau, Partneriaethau ac Atal, mae Cerys yn arwain y gwaith o ddatblygu a chynnal partneriaethau strategol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddarparu mesurau atal troseddau effeithiol a diogelu'r cyhoedd a lleihau niwed yn well. Mae Cerys yn meithrin cydweithio rhwng rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddau, gan ysgogi mentrau i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant.
Paula Bills
Cyfarwyddwr Perfformiad, Sicrwydd a GoruchwylioPaula Bills yw'r Cyfarwyddwr Perfformiad, Sicrwydd a Goruchwylio. Mae Paula yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth i sicrhau bod Heddlu De Cymru yn darparu safonau uchel o wasanaeth, perfformiad ac atebolrwydd. Mae Paula hefyd yn gyfrifol am ddirprwyo ar ran y Prif Weithredwr pan fo angen.
Sian Rees
Cyfarwyddwr CyfiawnderFel Cyfarwyddwr Cyfiawnder, mae Sian yn arwain datblygiadau strategol cyfiawnder troseddol ledled De Cymru, gan sicrhau cyd-fynd â blaenoriaethau'r Comisiynydd a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder. Gan oruchwylio dyletswyddau statudol y Comisiynydd mewn perthynas â chyfiawnder troseddol, mae Sian yn gweithio i wella effeithlonrwydd y system, meithrin dulliau integredig o adsefydlu a chymorth i ddioddefwyr, a gwella canlyniadau cyfiawnder ledled De Cymru.