Mae aelodau PALG, sy’n cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau, yn helpu’r Comisiynydd i hyrwyddo triniaeth deg ac arferion dilys ym mhob rhan o amgylchedd gwaith Heddlu De Cymru yn rhagweithiol ac wrth ddelio â chymunedau De Cymru. Mae’r grŵp yn goruchwylio ac yn craffu’n annibynnol ar Heddlu De Cymru mewn perthynas â’r canlynol:

  • Defnyddio pwerau plismona (gan gynnwys stopio a chwilio a’r defnydd o rym)
  • Hygyrchedd a thryloywder system ymddygiad a chwynion yr heddlu
  • Datblygu polisïau, prosiectau ac arferion a’u rhoi ar waith
  • Ymgysylltu a rhyngweithio â’r cyhoedd
  • Materion tegwch yn y gwaith
  • Annog amrywiaeth yn y gweithle
  • Gwneud cynnydd yn erbyn amcanion cydraddoldeb a osodir fel rhan o Ddyletswyddau Penodol y Ddeddf Cydraddoldeb.

Cynhelir cyfarfodydd bob chwarter a chânt eu cadeirio gan Aelod Annibynnol o’r Gymuned.

Mae cofnodion y cyfarfodydd hyd at 2023 ar gael yn yr adran adnoddau a chyhoeddiadau.

PALG GRŴP ATEBOLRWYDD A DILYSRWYDD yr Heddlu Dathlu 2023 Gwaith Goruchwylio a Chraffu PALG: Yn dilyn canlyniadau Adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi ar Fetio a Chasineb at Fenywod, cafodd PALG gyflwyniad ar Safonau Proffesiynol gan Heddlu De Cymru. Atebodd Heddlu De Cymru sawl ymholiad a gwnaeth gynlluniau i fynd i'r afael â llygredd. Ar ôl i dîm y Comisiynydd gynnal archwiliad dwfn o ganfyddiad y cyhoedd o blismona, gwnaethpwyd argymhellion i Heddlu De Cymru er mwyn cryfhau'r ffordd y mae'n cyfathrebu â'r cyhoedd ynghylch y gwaith sy'n cael ei gwblhau yn yr ardal. Cynhaliodd tîm y Comisiynydd Archwiliad Dwfn o'r ymateb cychwynnol i gam-drin domestig. Gwnaed argymhellion i Heddlu De Cymru er mwyn cryfhau ei ddulliau ar gyfer cynnwys goroeswyr cam-drin domestig mewn hyfforddiant i swyddogion ac arferion sy'n ystyriol o drawma. Rhoddodd PALG adborth defnyddiol i Heddlu De Cymru ar Brosiect ATAL a phwysigrwydd hyfforddiant i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy'n ymdrin â hyn. Cododd PALG bwyntiau mewn perthynas â Heddlu De Cymru yn defnyddio taflenni / dolenni i'r we a'r anawsterau i'r rheini nad oedd technoleg ar gael iddynt. Rhoddodd Heddlu De Cymru friff i PALG o ran y canfyddiadau cychwynnol o gam cyntaf y cynllun ‘Gofal Cywir, Person Cywir’. Roedd y briff yn cynnwys manylion ar sut y mae disgwyl i adnoddau a ddefnyddir yn nodweddiadol ar gyfer digwyddiadau Pryder am Les gael eu hailddosbarthu.
Dathlu PALG 2023

Dogfennau Defnyddiol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Cofnodion Cyfarfod PALG