Beth yw’r Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol?

Mae’r Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yn ymrwymiad i greu system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru erbyn 2030. Mae’n cyd-fynd â Chynllun Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru i greu cenedl sy’n decach a mwy cyfartal.

Mae’r cynllun yn cydnabod hanes o hiliaeth, triniaeth annheg a anghydraddoldeb ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol ac yn cydnabod nad yw’r systemau na’r ffyrdd o weithio wedi rhoi ystyriaeth lawn i anghenion a phrofiadau ethnig leiafrifol.

Mae’r cynllun yn adlewyrchu penderfyniad 12 sefydliad partner i greu newid o fewn eu systemau a’u strwythurau eu hunain ac i wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu unrhyw hiliaeth mewn cyfiawnder yng Nghymru.

Mae’r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn cynnwys y partneriaid a ganlyn:

  • Y 4 Heddlu yng Nghymru
  • Y 4 Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF
  • Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

Sut y cafodd ei gynhyrchu?

Ochr yn ochr â phartneriaid y System Cyfiawnder Troseddol, lluniwyd y cynllun ar y cyd â 642 o bobl ethnig leiafrifol ac 16 sefydliad gwahanol ledled Cymru gan gynnwys Tîm Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru, Race Council Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru.

Cafodd ei lunio gan brofiadau byw, nifer o genedlaethau, ac arbenigwyr ym maes gwrth-hiliaeth.

Sut fyddwch chi’n gwneud hyn?

Mae’r cynllun yn cynnwys saith ymrwymiad yr ydym yn credu fydd yn ein galluogi i gyflawni ein nod o greu System Cyfiawnder Troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru. Mae pob ymrwymiad yn nodi sut a beth y byddwn yn ei wneud.

  1. Herio Hiliaeth
  2. Adeiladu Gweithlu sy’n Amrywiol yn Ethnig
  3. Cynnwys, Gwrando a Gweithredu
  4. Sicrhau Tryloywder, Atebolrwydd a Chydweithio
  5. Addysgu’r Gweithlu
  6. Hyrwyddo System Decach
  7. Canolbwyntio ar Atal, Ymyrryd yn Gynnar ac Adsefydlu

Beth sydd wedi ei gyflawni hyd yn hyn?

Rydym eisoes yn gweithio i gael gwared ar y systemau a’r strwythurau sy’n cynhyrchu canlyniadau gwahanol ar gyfer unigolion a grwpiau ethnig leiafrifol.

Byddwn yn parhau i wrando ac ymateb i sicrhau bod ein cynllun gwrth-hiliaeth yn diwallu anghenion pob unigolyn a grŵp ethnig leiafrifol.

Ble fedra i ddarllen y cynllun a chael gwybod mwy?

Darllenwch y cynllun a dysgwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd yma.

Cynllun Gwrth-hiliaeth  
Adroddiad Blynyddol 2023-2024

 

Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru Adroddiad Blynyddol 2023-2024

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru Adroddiad Blynyddol 2023-2024