Crynodeb
Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys ar gyfer Oedolion a Phobl Ifanc
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) yn diffinio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys fel “Un o sawl dull o ddod â chamau gweithredu’r system cyfiawnder troseddol i ben mewn perthynas â throsedd heb fynd ymlaen i erlyniad. Cânt eu gweinyddu gan yr heddlu, a’u galluogi i ymdrin yn gyflym ac yn gymesur â throseddau lefel isel, sy’n aml yn rhai tro cyntaf.”
Am ragor o wybodaeth ar Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys, cliciwch ar y ddolen isod:
Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Paneli Craffu ar Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys
Mae Panel Craffu ar Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys wedi bod ar waith yn ardal Heddlu De Cymru (HDC) ers 2014. Cynhelir y cyfarfodydd bob chwarter a chânt eu Cadeirio gan aelod o’r Farnwriaeth.
Mae’r panel yn galw cyfarfodydd safonol a thematig ac yn darparu tryloywder ac atebolrwydd, gan gynyddu dealltwriaeth, hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd o ran sut mae HDC yn defnyddio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys.
Diben y paneli craffu ar oedolion a phobl ifanc yw pennu p’un a yw’r dull datrys yn briodol ac yn seiliedig ar adolygiad o’r wybodaeth/y dystiolaeth sydd ar gael i’r penderfynwr ar y pryd ai peidio. Mae’r panel yn ystyried categori’r drosedd, difrifoldeb y drosedd, y dystiolaeth sydd ar gael ar adeg y broses ddatrys, rhesymeg proses gwneud penderfyniadau’r swyddog a ph’un a oedd y penderfyniadau’n canolbwyntio ar y dioddefwr ai peidio.
Mae paneli ar gyfer pobl ifanc wedi bod yn datblygu ers 2021, ac maent yn cydnabod yr angen i gael paneli gwahanol ar gyfer pobl ifanc.
Nod y panel yw:
- sicrhau mwy o dryloywder, cysondeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys a chynyddu dealltwriaeth, hyder ac ymddiriedaeth yn y dull hwn o ddatrys achosion.
- rhoi sicrwydd i’r partïon â diddordeb a sicrhau bod dioddefwyr wrth wraidd penderfyniadau mewn perthynas â Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y caiff lleisiau’r dioddefwyr eu clywed ac yr eir i’r afael â’u pryderon drwy gydol eu taith gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol.
- craffu p’un a yw amodau wedi cael eu hatodi i Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys, sy’n ceisio mynd i’r afael ag ymddygiad troseddol sylfaenol drwy amodau adsefydlu a/neu gymryd camau cyflym i wneud iawn i ddioddefwyr a chymunedau.
Caiff adborth gan y panel ei rannu â swyddogion unigol a’u goruchwylwyr a’i gynnwys yn hyfforddiant y swyddogion a’r hyfforddiant gloywi er mwyn sicrhau bod yr unigolion yn dysgu yn ogystal â’r sefydliad.
Mae’r adborth yn nodi anghenion hyfforddiant posibl neu’r datblygiadau o ran y polisi i’w hystyried gan HDC ac asiantaethau perthnasol eraill.
Proses y Panel
Caiff dip-sampl o achosion eu dewis gan aelod o’r Farnwriaeth ac aelod o swyddfa’r Comisiynydd cyn cyfarfod y panel. Caiff pob achos ei adolygu a’i drafod mewn manylder a bydd yr aelodau yn pleidleisio sut y datryswyd pob achos yn eu barn nhw yn unol â’r canlynol:
1 = Yn briodol ac yn gyson â’r polisi
2 = Yn briodol â’r archwiliadau
3 = Yn amhriodol ac yn anghyson â’r polisi
4 = Panel wedi methu â dod i benderfyniad
Mewn achosion lle bydd y panel yn methu â dod i gasgliad, y Cadeirydd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae’r aelodau yn cynnwys cynrychiolwyr o drawstoriad o randdeiliaid mewnol ac allanol, megis y canlynol:
- Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- Cadeirydd Mainc yr Ynadon
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Erlynydd y Goron Rhanbarthol
- Aelod Annibynnol o’r Panel
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaethau Cyfiawnder De Cymru
- Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi
- Gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr
Bydd yr adroddiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.