Neddf Dedfrydu 2026 - Mynediad Gymorth

Os yw’r newidiadau hyn wedi effeithio arnoch chi neu os ydych chi’n pryderu am ryddhau troseddwyr, mae gwasanaethau lleol ar gael i’ch cefnogi. Dysgwch fwy am sut gallwch gael gafael ar gymorth isod.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi sefydlu Llinell Gymorth Rhyddhau Troseddwyr bwrpasol sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth emosiynol ac ymarferol. Mae’r llinell hefyd yn helpu pobl sy’n poeni am droseddwr yn cael ei ryddhau, neu bobl y mae hyn yn effeithio arnynt, i gael mynediad at wasanaethau eraill.

Pwrpas y Llinell Gymorth yw:

  • Gwrando ar bryderon dioddefwyr a goroeswyr a chynnig cymorth emosiynol iddynt
  • Trafod lles, diogelwch a’r camau nesaf posibl
  • Rhoi arweiniad ymarferol a helpu’r rhai hynny sy’n ffonio i ddeall beth gall y newidiadau ei olygu
  • Esbonio sut y gall rhywun ofyn am ragor o wybodaeth. Ni fydd y Llinell Gymorth yn gallu darparu manylion penodol am achosion na dyddiadau rhyddhau.
  • Helpu pobl i gael mynediad at gymorth parhaus neu arbenigol pan fo hynny’n briodol

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth ar 0808 168 9280.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Llinell Gymorth a’r cymorth sydd ar gael yn https://victimsupport.org.uk/offender-release-helpline.

Llinell Cymorth

Neddf Dedfrydu 2026 - Cymorth Arbenigol yn ne Cymru

Gyda chymorth cyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi comisiynu pwynt cyswllt unigol lleol ledled ardal de Cymru ar ffurf Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar (Multi-Crime Early Release Scheme Victims’ Champion).

Bydd ein Hyrwyddwr Dioddefwyr arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â dioddefwyr a goroeswyr y mae newidiadau yn y cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi effeithio arnynt, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu hysbysu a’u cefnogi

Bydd yr Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar yn cynnig y canlynol:

  • Eiriolaeth a chyswllt â’r heddlu, y gwasanaeth prawf, llysoedd ac asiantaethau eraill i helpu i gasglu gwybodaeth a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
  • Asesiadau anghenion unigol fydd yn nodi gofynion cymorth ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch a chymorth priodol.
  • Cymorth ymarferol a gwasanaethau cyfeirio, gan gynnwys cymorth â materion tai, pryderon am addysg, a gorchmynion amddiffyn.
  • Cydlynu â gwasanaethau cymorth ac asiantaethau partner i sicrhau eich bod yn cael cymorth cydgysylltiedig ac yn cael gafael ar y cymorth lleol sydd ar gael i chi.

Os hoffech gael cymorth drwy Hyrwyddwr Dioddefwyr y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar, ffoniwch Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar 0300 303 0161.

Fel arall, gallwch ddilyn y broses hunanatgyfeirio ar wefan Atgyfeiriadau Dioddefwyr/Tystion – Ffocws Dioddefwyr De Cymru

Cymorth

Advocacy After Fatal Domestic Abuse (AAFDA)

Mae’n darparu cymorth i deuluoedd sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i gam-drin domestig angheuol neu hunanladdiad lle mae cam-drin domestig wedi bod yn ffactor.

07887 488 464

help@aafda.org.uk

BAWSO

Gwasanaethau arbenigol ar gyfer pobl  ddu neu leiafrifol sy’n ddioddefwyr cam-drin, trais a chamfanteisio yng Nghymru.

0800 731 8147 (Llinell Gymorth: 24 awr)

www.bawso.org.uk

Gwasanaethau Trais Domestig Calan

Elusen cam-drin domestig sy’n gwasanaethu yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr

01639 633580

www.calanDVS.org.uk

Dyn Safer Cymru

Gweithio ledled Cymru i helpu dynion sy’n cael profiad o gam-drin domestig.

0808 801 0321

Support for male victims of domestic violence in Wales — Cymru Ddiogelach – Safer Wales

 

Henna Foundation

Elusen gofrestredig genedlaethol sy’n ymrwymo i gryfhau teuluoedd mewn cymunedau Mwslimaidd

029 2049 6920

Henna Foundation (cavamh.org.uk)

Gwasanaethau Cam-drin Domestig RhCT

Cymorth cam-drin domestig i’r rhai yn ardal Rhondda Cynon Taf

01443 400791

www.wa-rct.org.uk

RISE CAERDYDD

Helpu menywod yn y brifddinas sy’n dioddef cam-drin.

02920 460566 (Llinell Gymorth: 24 awr)

https://rise-cardiff.cymru/

Rise Service Logo which has RISE in capital letters with the words Recovery, Information, Safety and Empowerment, a image of a bird rising above the wording in orange

Merthyr Tudful Mwy Diogel

Cefnogi’r rhai yn ardal Merthyr Tudful

01685 353999 (Dydd Llun-Dydd Gwener 9am-5pm)

www.smt.org.uk

Llwybrau Newydd

Gwasanaeth cymorth arbenigol i oedolion a phlant yr effeithiwyd arnynt gan achosion o dreisio, cam-drin rhywiol a thrais rhywiol

01685 379 310

www.newpathways.org.uk

Cymru Ddiogelach

Elusen annibynnol sydd â’r nod o gefnogi, diogelu a grymuso grwpiau o bobl sydd yn aml yn anweladwy mewn cymdeithas

029 2022 0033

www.saferwales.com

Cymorth i Fenywod Abertawe

Sefydliad i fenywod un unig sy’n cefnogi menywod, gyda phlant neu heb blant, yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig

01792 644683 (24 awr)

Swansea Women’s Aid

Ffocws Dioddefwyr De Cymru

Gwasanaeth lleol sy’n cael ei redeg gan yr elusen genedlaethol a lleol, Cymorth i Ddioddefwyr. Rydym yn rhoi help a chefnogaeth i unrhyw un yn Ne Cymru y mae troseddu wedi effeithio arnynt

0300 30 30 161

www.ffocwsdioddefwyrdecymru.org.uk

Stori Cymru

Dechreuodd Stori fel Hafan Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, i helpu pobl byw mewn ofn o gam-drin domestig. Heddiw, maent yma i unrhyw un mewn sefyllfa sy’n ei gwneud hi’n anodd byw’n ddiogel gartref. eu hunain yn fwy disglair,

Abertawe – 01792 345751 RhCT -01443 423208 Castell Nedd– 01639 636659

Contact | Stori (storicymru.org.uk)

Thrive Domestic Abuse Services

Elusen cam-drin domestig sy’n gwasanaethu yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr

01639 894864

Thrive Domestic Abuse Services – Thrive Domestic Abuse Services

 

Thrive Domestic Abuse Services Logo

Cymorth i Ferched Cymru

Gwasanaeth cymorth i fenywod a phlant sy’n profi cam-drin domestig a phob math o drais

02920 541 551

https://www.welshwomensaid.org.uk/cy/

We Stand

Cefnogaeth i deuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin plant yn rhywiol

 0800 980 1958

Ein Gwasaneathau yng Nghymru –Gwasanaethau yng Nghymru — Rydym yn sefyll (westand.org.uk)

Logo We Stand

Gwasanaeth Tystion

Mae’r Gwasanaeth Tystion yn helpu pobl i deimlo’n wybodus, yn cael eu cefnogi ac yn fwy hyderus wrth roi tystiolaeth yn y llys.

Mae nhw yn darparu cefnogaeth annibynnol am ddim i dystion yr erlyniad a’r amddiffyniad ym mhob llys troseddol yng Nghymru a Lloegr. Mae nhw hefyd yn cefnogi aelodau o’r teulu a ffrindiau sydd wedi colli rhywun, ac aelodau o deulu tystion sy’n mynychu’r llys.

https://cy.witnessservice.org.uk/make-a-referral/

0300 332 1000

Witness Service Logo, the words Witness Service in purple writing with an orange full stop.

Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro

Helpu dioddefwyr ym Mro Morgannwg

01446 744755 (Dydd Llun-Dydd Gwener 9am-5pm)

www.valedas.org

2wish

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu iau yn derbyn y gefnogaeth galar sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu.

Ebost: support@2wish.org.uk

01443 853125

2wish logo, a star with the words 2 wish underneath it.

Llinellau Cymorth Cenedlaethol

Mae'r adran isod yn darparu gwybodaeth gyswllt ar gyfer llinellau cymorth cenedlaethol.

Action Fraud

Canolfan Genedlaethol Adroddiadau Twyll a Seiberdroseddu.

0300 123 2040

Welsh | Action Fraud

Galop

Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol i bobl LHDT

0800 999 5428 (Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Gwener 10am-5pm, Dydd Mercher a Dydd Iau 10am-8pm)

www.galop.org.uk

Hourglass

Mae Hourglass yn cefnogi’r rhai sy’n profi (neu mewn perygl) niwed, yn ogystal â Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo atal effeithiol ar gyfer pobl hŷn.

Gyrrwch neges: 07860052906 Linell Gymorth: 0808 808 8141(24/7)

Welcome to Hourglass Cymru | Hourglass (wearehourglass.cymru)

Karma Nirvana

Llinell Gymorth Cam-drin ar sail Anrhydedd yn y DU

0800 5999 247 (Dydd Llun-Dydd Gwener 9am-5pm)

www.karmanirvana.org.uk

Byw Heb Ofn

Llinell gymorth ar gyfer trais rhywiol a cham-drin domestig yng Nghymru.

0808 8010 800 (24 awr)

Cysylltwch â Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU

NSPCC

Prif elusen plant y DU, atal cam-drin a helpu’r rhai hynny yr effeithiwyd arno i wella.

0808 800 5000 

help@NSPCC.org.uk

Logo o NSPCC

NSPCC Childline

Mae’r gwasanaeth Childline yn rhoi llais i blant a phobl ifanc pan nad oes neb arall yn gwrando. Pa bynnag broblemau neu beryglon y maent yn eu hwynebu, rydym yn rhoi rhywle iddynt droi ato am gymorth pan fydd ei angen arnynt. Mae Childline yma i ffonio 0800 1111 – mae Cwnselwyr Childline yma i gymryd galwadau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos gan blant a phobl ifanc dan 19 oed.

1-2-1 sgwrsio ac e-bost hefyd ar gael – 1-2-1 counsellor chat | Childline

Gwefan: Childline | NSPCC

Logo o NSPCC

Rape Crisis England and Wales

Gwasanaeth sgwrsio ar-lein a ffôn am ddim i unrhyw un 16+ oed yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cael ei effeithio gan dreisio, cam-drin plant yn rhywiol, ymosodiad rhywiol, aflonyddu rhywiol neu unrhyw fath arall o drais rhywiol.

Ffon: 0808 802 9999 (24/7 awr)

Rape Crisis England & Wales

Respect

Elusen yn y DU sy’n gweithio i atal y niwed a wneir gan y rhai sy’n cyflawni cam-drin domestig.

Ffon: 0808 8024040

http://respect.uk.net/information-support/domestic-violence-perpetrators/

Llinell Gymorth

Mae’n darparu llinell gymorth gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol

01708 765200

www.supportline.org.uk

The National Male Survivor Helpline and Online Service

Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol i Ddynion Goroeswyr yn llinell gymorth gyfrinachol ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol a chamdriniaeth.

Ffon: 0808 800 5005   Gyrrwch neges: 07860 065187

support@safeline.org.uk

Ymddiriedolaeth Goroeswyr

Asiantaeth ambarél ar gyfer gwasanaethau treisio a cham-drin rhywiol arbenigol yn y DU

08088 010818

www.thesurvivorstrust.org

Survivor UK

Llinell gymorth gyfrinachol dros y ffôn ac am ddim ar gyfer dynion a bechgyn sy’n delio ag effeithiau trais rhywiol

02035983898

www.survivorsuk.org