Panel Craffu ar Ddalfeydd Annibynnol

Yn 2022, ysgrifennodd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) a Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) at bob Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i awgrymu eu bod yn datblygu ‘panel craffu ar gadw yn y ddalfa’. Nododd NPCC ac APCC nad oedd dull gweithredu cyson o ymdrin ag anghymesuredd o fewn proffiliau cadw. Y gobaith yw y bydd sefydlu panel o’r fath yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder yn y maes hwn o blismona sy’n aml yn gudd.

O ganlyniad, sefydlwyd Panel Craffu ar Ddalfeydd Annibynnol De Cymru ar y cyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru. Mae’r aelodau yn cynnwys y bobl sy’n cynrychioli’r canlynol:

  • Gwirfoddolwyr Annibynnol â’r Ddalfa
  • Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd yr Heddlu
  • Grŵp Cynghori Annibynnol

Diben y Panel Craffu ar Ddalfeydd Annibynnol

  • Darparu goruchwyliaeth annibynnol bellach o fewn cadw a’r ddalfa.
  • Asesu a rhoi gwybod am y prosesau cadw a’r ddalfa.
  • Adolygu’n annibynnol ac ymgynghori ar faterion anghymesuredd o fewn y prosesau cadw a’r ddalfa.
  • Helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder o fewn y gymuned drwy greu tryloywder o fewn cadw a’r ddalfa.
  • Gweithredu fel ffrind beirniadol i Heddlu De Cymru a rhoi cyngor, canllawiau ac argymhellion i wella perfformiad mewn perthynas â chadw a’r ddalfa.

Bydd y Panel yn cael mynediad digynsail at ddeunydd a gadwyd gan yr heddlu er mwyn adolygu materion anghymesuredd ac ymddygiad yr heddlu/yr unigolyn sydd yn y ddalfa yn wrthrychol ac yn annibynnol yng nghyd-destun deddfwriaeth, canllawiau, polisi, a gweithdrefn. Noder na fydd data personol a sensitif ar gael i’r Panel.

Bydd y pynciau yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Noeth-chwiliadau
  • Dillad gwrth-rwygo
  • Defnydd o rym
  • Urddas a pharch
  • Mynediad at wasanaethau (e.e. darpariaethau gwasanaethau iaith)
  • Iechyd meddwl