TROSOLWG A DIBEN

Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol De Cymru yn gweithredu fel y prif fwrdd yn Ne Cymru. Mae’n darparu arweiniad strategol a threfniadau llywodraethu ar gyfer partneriaid troseddol a chyfiawnder cymdeithasol, gan sicrhau y caiff canlyniadau eu cyflawni’n effeithiol er mwyn lleihau achosion o droseddu ac aildroseddu a chreu cymunedau mwy diogel, yn ogystal â sicrhau y caiff adnoddau eu defnyddio’n effeithlon. Nod y bwrdd yw nodi cyfleoedd i gysoni gweithgarwch â threfniadau partneriaeth eraill ledled De Cymru er mwyn darparu dull ar y cyd i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon a chyflawni blaenoriaethau’n effeithiol.

BLAENORIAETHAU STRATEGOL

Yn unol â fframwaith Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, mae rhaglen waith Bwrdd Cyfiawnder Troseddol De Cymru yn canolbwyntio ar y meysydd sy’n flaenoriaeth allweddol sy’n parhau i ddatblygu dros amser:

  1. Pobl Sydd Wedi Cyflawni Troseddau: Deall bregusrwydd a/neu anghenion cymhleth pobl sydd wedi troseddu a mynd i’r afael â nhw.
  2. Dioddefwyr a Thystion: Deall anghenion a bregusrwydd dioddefwyr a thystion yn ystod pob cam o’u profiad cyfiawnder troseddol a mynd i’r afael â nhw.
  3. Ymyrryd yn Gynnar ac Atal: Defnyddio tystiolaeth i ddeall yr achosion a’r hyn sy’n ysgogi unigolion i droseddu a datblygu dulliau atal ac ymyrryd yn gynnar sydd eisoes yn bodoli a dylanwadu ar y polisi er mwyn lleihau achosion o droseddu a gwneud newid cadarnhaol.
  4. Gwrth-hiliaeth: Rhoi dull ‘un gwasanaeth cyhoeddus’ ar waith yng Nghymru er mwyn gwella cydraddoldeb hiliol.

AELODAETH GRAIDD

Mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys llunwyr penderfyniadau lleol o’r sefydliadau canlynol:

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Heddlu De Cymru
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, sy’n cynrychioli’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf
  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
  • Cymorth i Ddioddefwyr
  • Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth
  • Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
  • Cyfiawnder Cymunedol Cymru

LLYWODRAETHU

 Mae Rheoli Troseddwyr Integredig De Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yn cynnal cyfarfodydd chwarterol (o leiaf). Mae’n adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru sy’n dod â phartneriaid cyfiawnder troseddol ynghyd, gan gynnwys: Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaethau’r Heddlu yng Nghymru, Prif Gwnstabliaid Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cyrff y Sector Gwirfoddol a’r Comisiynydd Dioddefwyr.

Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cenedlaethol yn goruchwylio’r System Cyfiawnder Troseddol ar lefel genedlaethol ac yn hyrwyddo dull cydweithredol o fynd i’r afael â’i heriau. Caiff y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol ei gadeirio gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar ran Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’n cwrdd ddwywaith y flwyddyn gydag uwch-arweinwyr o bob rhan o’r System Cyfiawnder Troseddol yn eu mynychu.

Aelod o’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yw Arweinydd Cyfiawnder Troseddol Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir rhoi gwybod i’r Bwrdd am flaenoriaethau, heriau a thueddiadau ar lefel leol.

Adroddiadau Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru