
Cefnogi Dioddefwyr a Thystion 2021 -2026
Cefnogi Dioddefwyr a Thystion 2021 -2026
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn darparu grant blynyddol i bob Comisiynydd Heddlu a Throsedd I benderfynu ar y ffordd orau o gomisiynu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion dioddefwyr yn lleol. Mae’r Gwasanaethau Dioddefwyr a ariennir gan y Comisiynydd wedi parhau i helpu dioddefwyr i ymdopi ac adfer o effeithiau trosedd a sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn canoli anghenion a hawliau dioddefwyr.
Mae anghenion dioddefwyr troseddau yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Heddlu a Throsedd De Cymru sydd:
- Yn datgan bod angen i’r system cyfiawnder troseddol gael pwyslais clir ar wella canlyniadau i ddioddefwyr troseddau.
- Sicrhau bod llais dioddefwyr yn allweddol wrth lunio’r ddarpariaeth o wasanaethau.
- Cynyddu’r defnydd o ddulliau adferol i sicrhau bod llais y dioddefwyr yn cael ei glywed.
Mae dyletswydd arnom i wneud yn s iwr bod dioddefwyr yn hyderus i roi ˆ gwybod am droseddau, gan wybod y byddant yn cael eu cefnogi, ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, drwy gydol yr ymchwiliad. Rydym yn awyddus i sicrhau ymyrryd yn gynnar a chamau prydlon a chadarnhaol. Rydym yn cydweithio’n agos gydag asiantaethau eraill ac yn gweithio i sicrhau bod y System Cyfiawnder Troseddol leol yn effeithlon ac yn effeithiol, gan atal troseddu a lleihau aildroseddu.
Bydd y gwaith o ymateb drwy ganfod troseddau, mynd i’r afael â throseddwyr, ac arestio pobl sy’n torri’r gyfraith ac yn cam-fanteisio ar bobl yn bwysig bob amser. Ond mae lleihau faint o droseddau a gyflawnir, gwrando ar brofiad dioddefwyr, annog pobl i roi gwybod am droseddau, a deall anghenion unigol a phobl sy’n agored i niwed hefyd yn hanfodol.

Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau yn nodi’r hyn sy’n digwydd o’r adeg pan gaiff trosedd ei riportio i’r hyn sy’n digwydd ar ôl treial, os oes un. Mae’r Cod Ymarfer yn esbonio beth yw eich hawliau.
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau hefyd ar gael mewn fformatau Hawdd ei Ddarllen, Print Bras ac Iaith Arwyddion Prydain, yn ogystal ag mewn nifer o’r ieithoedd a siaredir yn fwyaf cyffredin yng Nghymru a Lloegr.

Pwy sy’n ‘ddioddefwr’ o dan y cod hwn? Ystyr dioddefwr yw unrhyw un sydd wedi dioddef niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol, neu golled economaidd o ganlyniad uniongyrchol i’r drosedd. Mae hyn yn cynnwys busnesau, perthnasau agos rhywun a gafodd ei ladd o ganlyniad i drosedd, rhieni/gwarcheidwaid dioddefwyr o dan 18 oed ac eiriolwyr teulu enwebedig sy’n gweithredu ar ran dioddefwyr â nam meddyliol. |
Pan na chaiff eich hawliau eu parchu Os byddwch o’r farn nad ydych wedi cael gwasanaeth o safon dderbyniol, neu os byddwch yn teimlo nad yw Heddlu De Cymru wedi parchu eich hawliau o dan y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau, gallwch wneud cwyn ar-lein drwy wefan Heddlu De Cymru, drwy ffonio 101, neu drwy fynd i unrhyw un o’n gorsafoedd heddlu sydd ar agor i’r cyhoedd yn bersonol. Mae mwy o wybodaeth am eich hawliau ar gael yma:Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion – Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion (victimandwitnessinformation.org.uk) |