Canfyddiadau'r Panel Craffu ar Benderfyniadau y Tu Allan i'r Llys i Oedolion Craffwyd ar 9 achos = 3 achos ym mhob ardal (Caerdydd a Bro Morgannwg, Morgannwg Ganol, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot) Enghreifftiau cadarnhaol o ymgysylltu â dioddefwyr lle rhannwyd diweddariadau â dioddefwyr ac ystyriwyd eu barn. Nodwyd cyfle i roi hyn ar waith yn fwy cyson ar draws achosion. Nodwyd cyfleoedd i atgyfeirio unigolion at ymyrraeth fwy priodol mewn rhai achosion. O ganlyniad, caiff ansawdd atgyfeiriadau ei sicrhau a chânt eu cyfeirio drwy'r dull gwyro mwyaf priodol gan dîm dynodedig. Cafwyd arferion cadarnhaol lle gwnaeth swyddogion ailystyried amgylchiadau'r achos a lleihau lefel y drosedd yn briodol. Nodwyd cyfle i roi'r ymagwedd hon ar waith mewn achosion eraill. Yn yr achosion a adolygwyd, nododd y Panel fod ymosodiadau ar weithwyr brys ar adegau yn deillio o alwadau cam-drin domestig a waethygodd, gan dynnu sylw at gyffredinrwydd achosion cam-drin domestig a'r potensial y bydd yr amgylchiadau'n gwaethygu a'r angen am gamau diogelu cryf i ddioddefwyr. Gall rhwystrau iaith gyfyngu ar fynediad at ymyriadau a chyrsiau addysg i unigolion nad ydynt yn siarad Saesneg. Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn archwilio hyn ymhellach. Mae unigolion gwrywaidd dros 25 oed sydd â gwendidau ychwanegol yn cael eu hatgyfeirio at CARA ar adegau pan fydd hi'n fwy priodol ymyrryd ar sail anghenion eraill, er enghraifft iechyd meddwl a defnyddio sylweddau. Siart bar yn dangos: CANLYNIADAU'R ACHOSION Y CRAFFWYD ARNYNT Priodol a Chyson â Pholisïau= 4 Priodol gydag arsylwadau=5 Amhriodol ac Anghyson â Pholisïau=0 Y panel wedi methu gwneud penderfyniad=0 Siart bar yn dangos: CANLYNIADAU'R ACHOSION Y CRAFFWYD ARNYNT FESUL ARDAL Caerdydd a'r Fro: 3 Priodol gydag arsylwadau Morgannwg Ganol: 2 Priodol gydag arsylwadau, 1 Priodol a Chyson â Pholisïau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot : 3 Priodol a Chyson â Pholisïau