Canfyddiadau'r Panel Craffu ynghylch Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys (OoCRs) - Gorffennaf 2026 Craffwyd ar 9 achos = 3 achos ym mhob ardal (Caerdydd a Bro Morgannwg, Morgannwg Ganol, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot) Nodwyd rhai anghysondebau yn y defnydd o Rybuddiadau Amodol a Phenderfyniadau Cymunedol, gan dynnu sylw at yr angen am fwy o eglurder a chysondeb. Rhai enghreifftiau cadarnhaol o ymgysylltu â dioddefwyr. Fodd bynnag, ni chafwyd tystiolaeth gyson o hyn ym mhob achos, a nodwyd bod Heddlu De Cymru yn gweithio i ddatrys heriau yn ymwneud ag ymgysylltu â manwerthwyr mawr fel dioddefwyr. Mae ymgysylltu'n gynnar ac yn ystyrlon â dioddefwyr yn parhau i fod yn faes i'w wella. Thema barhaus oedd p'un a yw cyrsiau dargyfeirio yn addas ac yn hygyrch, yn enwedig i'r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, niwroamrywiaeth neu anawsterau llythrennedd. Nodwyd arferion da pan ddyfarnwyd iawndal i ddioddefwyr, gan gynnig canlyniad diriaethol a chydnabod y niwed a achoswyd. Mewn rhai achosion, tynnwyd sylw at y defnydd cadarnhaol o wasanaethau fel y gwasanaeth i fenywod a phobl ifanc 18-25 oed ONE Wales, er bod cyfleoedd atgyfeirio ychwanegol wedi'u nodi mewn achosion eraill. Mae ansawdd atgyfeiriadau yn cael ei sicrhau gan dîm dynodedig i sicrhau bod menywod a phobl ifanc 18-25 oed yn cael eu cyfeirio at ONE Wales pan fo hynny'n briodol. Gwnaeth sawl achos dynnu sylw at wendidau ac anghenion sylfaenol ehangach, gan gynnwys cam-drin domestig, digartrefedd ac amgylchiadau personol cymhleth. Nododd y panel hefyd achlysuron pan roedd tystiolaeth gyfyngedig bod ymddygiadau, fel stelcio, wedi cael eu hystyried wrth benderfynu ar y drosedd a'r ymyrraeth fwyaf priodol. CANLYNIADAU'R ACHOSION Y CRAFFWYD ARNYNT Priodol a Chyson â Pholisïau=1 Priodol gydag arsylwadau=6 Amhriodol ac Anghyson â Pholisïau=2 Y panel wedi methu gwneud penderfyniad=0 CANLYNIADAU'R ACHOSION Y CRAFFWYD ARNYNT FESUL ARDAL Caerdydd a'r Fro: Priodol a Chyson â Pholisïau=1 Priodol gydag arsylwadau=1 Amhriodol ac Anghyson â Pholisïau=1 Y panel wedi methu gwneud penderfyniad=0 Morgannwg Ganol:Priodol a Chyson â Pholisïau=0 Priodol gydag arsylwadau=3 Amhriodol ac Anghyson â Pholisïau=0 Y panel wedi methu gwneud penderfyniad=0 Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot:Priodol a Chyson â Pholisïau=0 Priodol gydag arsylwadau=2 Amhriodol ac Anghyson â Pholisïau=1 Y panel wedi methu gwneud penderfyniad=0