Mawrth 2026

Thema: Trais mewn Ysgolion (heb arf) gyda dioddefwr sy’n blentyn

Cafwyd ymrwymiad ledled ardal de Cymru i fynd i’r afael â thrais mewn ysgolion sy’n cynnwys dioddefwyr sy’n blant. Cynhaliwyd y panel thematig hwn i graffu ar achosion lle y defnyddiwyd Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys i fynd i’r afael â’r math hwn o drosedd.

Gwelwyd canfyddiadau tebyg ar draws y paneli. Er enghraifft, roedd nifer o’r plant a oedd wedi cyflawni troseddau treisgar yn yr ysgol wedi dod i gysylltiad ag achosion o gam-drin domestig yn y gorffennol. Nodwyd hefyd fod sawl un o’r plant wedi cael eu gwahardd o’r ysgol am gyfnod penodol neu barhaol, a bod ganddynt euogfarnau blaenorol neu eu bod wedi bod yn destun Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys.

Bydd gwybodaeth a drafodir gan y paneli yn cael ei rhannu a’i huwchgyfeirio (yn ôl yr angen) drwy strwythurau llywodraethu priodol, gan rannu ymatebion i gamau gweithredu ac uwchgyfeiriadau mewn cyfarfodydd dilynol. Bydd disgwyl i aelodau o’r paneli rannu’r gwersi a ddysgwyd yn eu sefydliadau eu hunain.

Canfyddiadau Panel