Canfyddiadau Panel Craffu ar Benderfyniadau y Tu Allan i'r Llys i Blant Caerdydd a'r Fro Craffwyd ar 6 achos = 3 o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd a 3 o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Bro Morgannwg Cymerwyd 0/6 o'r plant i Ddalfa'r Heddlu Canfyddiadau'r Panel: Nodwyd bod defnydd Ffocws Dioddefwyr De Cymru a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid o gyfieithwyr i gyfathrebu â dioddefwr a'i deulu yn Arfer Da. Nodwyd problem ynghylch oedolyneiddio person ifanc o gefndir ethnig leiafrifol. Nododd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid fod mwy o blant ag anghenion niwroddatblygiadol yn parhau i beidio â chael eu nodi cyn iddynt ddod i gysylltiad â'i wasanaethau. Mewn un achos, bu defnydd amhriodol o Gyfiawnder Adferol gan ysgol. Awgrymodd Aelodau'r Panel y dylai'r sector addysg adolygu ei arferion o ran Cyfiawnder Adferol i sicrhau eu bod yn briodol. Arsylwadau: Tyst I Achos O Gam-Drin Domestig / Trais Domestig=3 Hysbysiad Diogelu'r Cyhoedd Wedi'i Gwblhau=6 Gwahardd O'r Ysgol Am Gyfnod Penodol Neu'n Barhaol=4 Dim Penderfyniadau Y Tu Allan I'r Llys Nac Euogfarnau Blaenorol=5 Canlyniadau'r Achosion y Craffwyd Arnynt: Priodol a Chyson â Pholisïau=3 Priodol gydag arsylwadau=3 Amhriodol ac Anghyson â Pholisïau=0 Y panel wedi methu gwneud penderfyniad=0
Canfyddiadau Panel Craffu ar Benderfyniadau y Tu Allan i'r Llys Morgannwg Ganol Craffwyd ar 6 achos = 3 o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a 3 o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cwm Taf Cymerwyd 1/6 o'r plant i Ddalfa'r Heddlu Canfyddiadau'r Panel: Darparwyd enghraifft gref o arfer da, gan ddangos dull cefnogol, wedi'i deilwra, a ddiwallodd anghenion diwylliannol plentyn mewn ysgol yn effeithiol. Ledled Morgannwg Ganol roedd tystiolaeth o drais mewn ysgolion a oedd yn ddigon difrifol i gyfiawnhau gwaharddiadau ond nid oeddent yn cael eu cyfeirio at yr Heddlu na'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd gwaith hyrwyddwyr Gwrth-hiliaeth Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cwm Taf yn amlwg drwy gynnig cymorth i blant o gefndiroedd ethnig amrywiol, gydag ymyriadau wedi'u teilwra i fynd i'r afael ag ymddygiad a chredoau niweidiol er mwyn meithrin cymunedau cydlynol sy'n dathlu amrywiaeth. Nodwyd effaith ymchwiliadau hir ar ddioddefwyr a chyflawnwyr yn y Panel hwn. Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod gwaith yn mynd rhagddo yn y maes hwn. Arsylwadau: Tyst I Achos O Gam-Drin Domestig / Trais Domestig=2 Hysbysiad Diogelu'r Cyhoedd Wedi'i Gwblhau=4 Gwahardd O'r Ysgol Am Gyfnod Penodol Neu'n Barhaol=4 Dim Penderfyniadau Y Tu Allan I'r Llys Nac Euogfarnau Blaenorol=5 Canlyniadau'r Achosion y Craffwyd Arnynt: Priodol a Chyson â Pholisïau=4 Priodol gydag arsylwadau=1 Amhriodol ac Anghyson â Pholisïau=0 Y panel wedi methu gwneud penderfyniad=0. Noder: Rhannwyd y bleidlais wrth wneud penderfyniad mewn un achos – 50/50 rhwng ‘priodol a chyson â pholisïau’ a ‘phriodol gydag arsylwadau’.
Canfyddiadau Panel Craffu ar Benderfyniadau y Tu Allan i'r Llys y Gorllewin Craffwyd ar 6 achos = 3 o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Abertawe a 3 o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot Cymerwyd 1/6 o'r plant i Ddalfa'r Heddlu Canfyddiadau'r Panel: Nodwyd apêl lwyddiannus yn erbyn gwaharddiad o'r ysgol mewn un achos, lle lluniodd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gynllun diogelwch i gefnogi'r plentyn i ddychwelyd i'r ysgol. Ni chwblhawyd Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd i blant a gafodd ganlyniad Cyfiawnder Adferol ar y Stryd. Nodwyd bod cyfleoedd wedi'u colli i gefnogi rhai plant yn gynharach drwy eu cyfeirio at wasanaethau ataliol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Nododd aelodau'r panel y gwaith Cyfiawnder Adferol effeithiol a wnaed gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid – cyfle posibl i rannu gwersi a ddysgwyd ynghylch arferion Cyfiawnder Adferol â'r Heddlu. Arsylwadau: Tyst I Achos O Gam-Drin Domestig / Trais Domestig=2 Hysbysiad Diogelu'r Cyhoedd Wedi'i Gwblhau=3 Gwahardd O'r Ysgol Am Gyfnod Penodol Neu'n Barhaol=2 Dim Penderfyniadau Y Tu Allan I'r Llys Nac Euogfarnau Blaenorol=4 Canlyniadau'r Achosion y Craffwyd Arnynt: Priodol a Chyson â Pholisïau=1 Priodol gydag arsylwadau=3 Amhriodol ac Anghyson â Pholisïau=2 Y panel wedi methu gwneud penderfyniad=0