Mai 2026
Cafodd chwech o achosion o blant yn y ddalfa eu samplu gan Dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i’w craffu gan y panel. Roedd yr achosion a adolygwyd yn adlewyrchu amrywiaeth o ryweddau, oedrannau, ethnigrwydd a dalfeydd, ac roeddent yn cynnwys plant a oedd wedi treulio gwahanol gyfnodau amser yn y ddalfa. Mae’r sampl hefyd yn ystyried ffactorau perthnasol eraill, megis a oedd grym wedi’i ddefnyddio.
Gwnaeth aelodau’r panel adolygu pob achos yn fanwl, gan drafod eu sylwadau, nodi enghreifftiau o arferion cadarnhaol, ac amlygu meysydd ar gyfer gwella. Mae arsylwadau, themâu a materion a nodwyd yn cael eu gweithredu a’u monitro fel y bo’n briodol, gan gynnwys materion a drafodwyd mewn perthynas â darparu oedolyn priodol ar gyfer plant. Gwnaeth y panel dynnu sylw hefyd at bwysigrwydd casglu a chynnwys barn y plentyn mewn cyfarfodydd panel yn y dyfodol i ddeall profiadau plant yn well. Mae Tîm y Comisiynydd yn archwilio sut y gellir gwella hyn ar gyfer paneli yn y dyfodol.
Canfyddiadau Panel