Mae’r Tîm Gweithredol yn sicrhau bod dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni ac yn rhoi cymorth i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae’r tîm yn cynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, y Prif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid, Cyfarwyddwr Perfformiad, Sicrwydd a Goruchwylio, Cyfarwyddwr Cymunedau, Partneriaethau ac Atal Troseddu, a Cyfarwyddwr Cyfiawnder.

Llun o Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools

Emma Wools

Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Mae Emma Wools yn ei thymor cyntaf fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, ar ôl cael ei hethol ar 3 Mai 2024, gan ennill 45.2% o bleidleisiau'r cyhoedd.

Lee Jones

Prif Weithredwr & Swyddog Monitro

Lee yw Pennaeth y gwasanaeth cyflogedig a'r Swyddog Monitro, ef sy'n gyfrifol am sicrhau bod y dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni.

Dave Holloway Young

David Holloway-Young

Prif Swyddog Ariannol

Mae gan y Prif Swyddog Cyllid gyfrifoldeb cyffredinol am gyfeiriad strategol, cynllunio a rheoli trefniadau rheoli ariannol y Comisiynydd yn unol â safonau proffesiynol, cyfrifoldebau deddfwriaethol ac ymddiriedolwyr. Mae hyn yn cynnwys cynghori ar lefel praesept, balansau wrth gefn a chadernid trefniadau rheoli ariannol yr Heddlu.

Paula Bills

Cyfarwyddwr Perfformiad, Sicrwydd a Goruchwylio

Paula Bills yw'r Cyfarwyddwr Perfformiad, Sicrwydd a Goruchwylio. Mae Paula yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth i sicrhau bod Heddlu De Cymru yn darparu safonau uchel o wasanaeth, perfformiad ac atebolrwydd. Mae Paula hefyd yn gyfrifol am ddirprwyo ar ran y Prif Weithredwr pan fo angen.

Sian Rees

Cyfarwyddwr Cyfiawnder

Fel Cyfarwyddwr Cyfiawnder, mae Sian yn arwain datblygiadau strategol cyfiawnder troseddol ledled De Cymru, gan sicrhau cyd-fynd â blaenoriaethau'r Comisiynydd a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder. Gan oruchwylio dyletswyddau statudol y Comisiynydd mewn perthynas â chyfiawnder troseddol, mae Sian yn gweithio i wella effeithlonrwydd y system, meithrin dulliau integredig o adsefydlu a chymorth i ddioddefwyr, a gwella canlyniadau cyfiawnder ledled De Cymru.

Dr Cerys Miles

Cyfarwyddwr Cymunedau, Partneriaethau ac Atal Troseddu

Fel Cyfarwyddwr Cymunedau, Partneriaethau ac Atal Troseddu, mae Cerys yn arwain ar ddatblygu a chynnal partneriaethau strategol ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflawni strategaethau atal troseddau a lleihau niwed.
Mae Cerys yn hybu cydweithio rhwng rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag achosion gwreiddiol o drais i ddatblygu dulliau holistaidd i ddiogelwch cyhoeddus, gan yrru mentrau i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, wrth adeiladu ymgysylltiad cymunedol, hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiad.