Prif Gyfrifoldebau

  • Cefnogi datblygiad parhaus a chyflawni blaenoriaethau ac addewidion y Comisiynydd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau statudol Pennaeth y gwasanaeth taladwy a’r Swyddog Monitro.
  • Goruchwylio agweddau cynllunio ariannol, cyllidebol, adnoddau a rheoli asedau swyddfa’r Comisiynydd.
  • Gyrru strategaethau craidd y Comisiynydd yn eu blaen a sicrhau fod trefniadau llywodraethu effeithiol yn eu lle.
  • Sicrhau ymgysylltu effeithiol ac effeithlon â phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  • Sicrhau ymgysylltu effeithiol â’r Prif Gwnstabl a holl staff perthnasol y llu a chynllunio a rheoli materion y Comisiynydd.
  • Cynrychioli’r Comisiynydd ar gyfarfodydd lefel uchel
  • Cyfrannu at gyflwyno’r Cynllun Heddlu a Throseddu yn effeithiol ac effeithlon.