Prif Gyfrifoldebau

  • Rhoi cyngor ariannol i’r Comisiynydd ar holl agweddau gweithgareddau Heddlu De Cymru, yn cynnwys tîm y Comisiynydd ei hun, ac agweddau ariannol y cynllunio strategol a’r broses gwneud polisi.
  • Sicrhau fod materion ariannol y Comisiynydd yn cael eu gweinyddu’n briodol a bod y Rheoliadau Ariannol yn cael eu dilyn a’u diweddaru a chyflawni swyddogaeth rheoli’r trysorlys;
  • Sicrhau rheoleidd-dra, priodoldeb a Gwerth am Arian yn y defnydd o arian cyhoeddus.
  • Cynghori Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gadernid y gyllideb a digonolrwydd yr arian wrth gefn, ac am unrhyw oblygiadau dilynol yn y tymor hir a chanolig a ddaw yn sgil materion cyllidebol;
  • Sicrhau fod datganiadau cyfrifon y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cynhyrchu;
  • Cynghori, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Staff, ar ddiogelu asedau, yn cynnwys rheoli risg ac yswiriant.
  • Trefnu gosod a chyhoeddi’r praesept.