Prif Gyfrifoldebau
- Datblygu strategaethau partneriaeth a’u rhoi ar waith i hybu’r gwaith o atal/lleihau troseddau, gan sicrhau cysondeb â blaenoriaethau ac amcanion strategol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
- Creu a chynnal cydberthnasau effeithiol â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, darparwyr addysg, busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol.
- Cynrychioli swyddfa’r Comisiynydd mewn fforymau amlasiantaethol a gweithgorau, gan eirioli dros fentrau ar y cyd sy’n ymwneud â throseddau, diogelwch cymunedol a materion bregusrwydd ar lefelau lleol, rhanbarthol, yng Nghymru
ac yn y DU. - Arwain y gwaith o ddatblygu, cydlynu a gwerthuso rhaglenni atal/lleihau troseddau ledled De Cymru, gan gynnwys ymgyrchoedd i atal/lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais a cham-drin domestig, gan gynyddu diogelwch cymunedol a diogelu ar yr un pryd.
- Gweithio gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid allanol i ddatblygu rhaglenni ymyrryd wedi’u targedu at atal/lleihau troseddau mewn ardaloedd risg uchel ac ymysg poblogaethau agored i niwed.
Dan Jones
Pennaeth Diogelwch Cymunedol / Uned Atal Trais CymruFel Pennaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais, mae Daniel yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni Strategaeth Atal a Lleihau Trais Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ledled De Cymru.
Gemma Woolfe
Pennaeth Diogelwch CymunedolFel Pennaeth Diogelwch Cymunedol, mae Gemma yn cynrychioli Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu o fewn partneriaethau traws-sector allweddol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws Plismona, Diogelwch Cymunedol, Iechyd, Cyfiawnder Troseddol a Diogelu. Mae'n arwain y gwaith o ddatblygu polisïau i ysgogi ymatebion arloesol sydd wedi'u harwain gan anghenion i flaenoriaethau Diogelwch Cymunedol yn unol â Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder De Cymru, gan ddarparu ymateb cydweithredol, sydd wedi'i gydlynu, i leihau ac atal troseddu, â ffocws arbennig ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Cydlyniant Cymunedol a phlant a phobl ifanc.
Megan Stevens
Pennaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched a DiogeluFel Pennaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Diogelu, mae Megan yn arwain ar ymrwymiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i fynd i'r afael â phob math o Drais yn Erbyn Menywod a Merched, gan gynnwys cam-drin domestig, trais rhywiol, stelcio, camfanteisio a thrais ar sail anrhydedd, ac wrth ddiogelu pobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys plant a phobl ifanc, a phobl o grwpiau sydd wedi'u hymyleiddio.
Riyadh Issa
Pennaeth Cyfathrebu ac YmgysylltuFel Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, mae Riyadh yn arwain ar gyfathrebu gwaith Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn glir i'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Mae Riyadh yn gyfrifol am oruchwylio gwaith ymgysylltu'r Comisiynydd â'r cyhoedd, gan sicrhau bod gwaith y Swyddfa yn ymatebol i bryderon a phrofiadau cymunedau lleol.