Prif Gyfrifoldebau
- Goruchwylio pob agwedd ar berfformiad yr heddlu mewn modd strategol, gan sicrhau bod Heddlu De Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif gan y cyhoedd, rhanddeiliaid a chyrff allanol. Arwain y gwaith o ddatblygu’r rhaglen goruchwylio a chraffu.
- Arwain ymdrechion i hyrwyddo tryloywder yng ngweithrediadau’r heddlu drwy ddatblygu systemau i roi gwybod i’r cyhoedd am berfformiad y Comisiynydd a’r heddlu, gan sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch ac yn ddealladwy.
- Goruchwylio archwiliadau mewnol, arolygiadau allanol ac adolygiadau gan gymheiriaid, gan sicrhau bod unrhyw argymhellion yn cael eu rhoi ar waith a’u holrhain nes iddynt gael eu cwblhau.
- Arwain y gwaith o ddatblygu fframweithiau a dangosyddion perfformiad cadarn i werthuso effeithiolrwydd gweithrediadau Heddlu De Cymru a pherfformiad mewnol yn erbyn Cynllun yr Heddlu a Throseddu.
- Monitro ac asesu metrigau perfformiad allweddol yn rheolaidd, fel ystadegau ar droseddau, amseroedd ymateb, boddhad cymunedau ac ymddygiad swyddogion, yn unol â chyfrifoldebau cyfreithiol.
- Sicrhau bod data ar berfformiad yn cyd-fynd â’r amcanion a bennwyd gan swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a safonau plismona cenedlaethol.
Laura Armitt
Pennaeth Sicrwydd a ChydymffurfiaethMae Laura yn arwain tîm ymroddedig o chwe pherson sy'n goruchwylio nifer o swyddogaethau statudol allweddol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys ymdrin â chwynion, goruchwylio Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu a chraffu arni, a chyfrifoldeb dros faterion Diogelu Data. Yn ogystal, mae Laura yn darparu arweinyddiaeth i'r tîm sy'n gyfrifol am y gwaith o redeg y swyddfa o ddydd i ddydd ac am ddarparu cymorth ychwanegol i'r sefydliad ehangach.
Sarah Keefe
Pennaeth Perfformiad a ChraffuYn arwain ar swyddogaethau Perfformiad a Chraffu ar gyfer Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.