Prif Gyfrifoldebau

Yn gyfrifol am oruchwylio rhaglen strwythuredig o graffu gan ddefnyddio pedair thema eang i ddwyn yr heddlu a phartneriaid cyfiawnder troseddol ehangach i gyfrif. Mae’r rôl yn sicrhau dull effeithiol o graffu i’r swyddfa gyfan, sy’n cefnogi’r Comisiynydd i gyflawni cyfrifoldebau statudol ar gyfer goruchwyliaeth effeithiol ac atebolrwydd cyhoeddus. Mae’r rôl hefyd yn arwain trefniadau rheoli perfformiad, gan sicrhau bod systemau cadarn ar waith i olrhain cynnydd ac adrodd amdano yn erbyn y pum blaenoriaeth a nodir yn y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder. Mae’r gwaith hwn yn cefnogi llywodraethu tryloyw ac yn ysgogi gwelliant parhaus mewn plismona a diogelwch cymunedol.