Ynghylch Emma Wools

Mae Emma Wools yn ei thymor cyntaf fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, ar ôl cael ei hethol ar 3 Mai 2024, gan ennill 45.2% o bleidleisiau’r cyhoedd.

Emma yw’r fenyw ddu gyntaf i gael ei hethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Cyn cael ei hethol, Emma oedd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a hynny am saith mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd Emma rôl arweiniol yng Nghynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, a hi hefyd yw’r Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer Atal Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a’r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod yng Nghymru.

Mae wedi bod yn gysylltiedig â darparu gwasanaethau i atal troseddu a diogelu’r cyhoedd rhag niwed ers dros 23 blynedd. Yn arweinydd sydd wedi ennill cydnabyddiaeth, mae gan Emma gyfoeth o sgiliau a gwybodaeth a feithrinwyd drwy weithio mewn carchardai a dalfeydd, ac ym maes plismona a diogelwch cymunedol.

Bydd Emma yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Plismona cymunedol
  • Atal troseddau
  • Amddiffyn unigolion agored i niwed, cefnogi dioddefwyr a chymunedau, gan gynnwys y rheini ar-lein
  • Dwyn y rhai sy’n troseddu o flaen eu gwell a lleihau achosion o aildroseddu
  • Gwneud plismona yn addas ar gyfer y dyfodol