Prif Gyfrifoldebau
- Arwain y gwaith o ddatblygu polisïau cyfiawnder troseddol a’u rhoi ar waith mewn modd strategol, gan sicrhau cysondeb rhwng Heddlu De Cymru, y farnwriaeth a phartneriaid cyfiawnder troseddol, yn unol â gofynion statudol perthnasol a Chynllun yr Heddlu a Throseddu.
- Ysgogi cydweithio rhwng asiantaethau fel gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a phrawf, grwpiau cymorth i ddioddefwyr, a rhaglenni adsefydlu er mwyn gwella effeithlonrwydd ar draws y system gyfan.
- Datblygu a monitro strategaethau sy’n lleihau aildroseddu, yn symleiddio prosesau ac yn hyrwyddo cyfiawnder adferol.
- Datblygu rhaglen craffu a goruchwylio sy’n cyd-fynd â’r dirwedd cyfiawnder troseddol.
- Sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn Ne Cymru yn cael ei goruchwylio’n glir ac yn gadarn, gan gynnwys y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol.
Jade Theaker
Pennaeth Cyfiawnder Troseddol a DioddefwyrFel Pennaeth Dioddefwyr a Chyfiawnder Troseddol, mae Jade yn arwain ymgyrchoedd strategol sy'n cryfhau cymorth i ddioddefwyr, cyfiawnder ieuenctid, adferiad a rheoli troseddwyr, gan sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr wrth leihau aildroseddu.
Lisa Shipton
Pennaeth Gwasanaethau a GomisiynirFel Pennaeth Gwasanaethau a Gomisiynir, mae Lisa yn arwain y gwaith o gynllunio strategol a chyflawni gweithgareddau comisiynu ledled y de ar y cyd â chydweithwyr ym mhob rhan o swyddfa'r Comisiynydd, gan sicrhau cysondeb â blaenoriaethau'r Comisiynydd fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder. Mae Lisa hefyd yn gweithio gyda phartneriaid ehangach, gan arwain ein gwaith ar ddefnyddio sylweddau a pholisi iechyd meddwl.
Hannah Jenkins Jones
Pennaeth Cydraddoldeb a ChraffuFel Pennaeth Cydraddoldeb a Chraffu, mae Hannah yn gyfrifol am arwain mentrau cydraddoldeb a chynhwysiant strategol, yn ogystal â goruchwylio'r broses o gyflawni rhaglen craffu ac atebolrwydd y Comisiynydd.