Prif Gyfrifoldebau

Prif Gyfrifoldebau

Mae Hannah yn gyfrifol am ddatblygu blaenoriaethau cydraddoldeb a chynhwysiant y Comisiynydd, ac am hyrwyddo cydraddoldeb – gan gynnwys y Gymraeg – ar draws swyddogaethau’r Comisiynydd.  Mae hefyd yn goruchwylio rhaglen graffu’r Comisiynydd, gan sicrhau bod Heddlu De Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif yn effeithiol drwy drefniadau goruchwylio sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n cael eu llywio gan leisiau cymunedau a phartneriaid.

Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Arwain cyfrifoldeb statudol mewn perthynas â chydraddoldeb a’r Gymraeg, a hyrwyddo tegwch a chynhwysiant ar draws gweithgareddau’r Comisiynydd
  • Cyflawni rhaglen graffu strategol y Comisiynydd drwy gynnal adolygiadau craffu o feysydd thematig yn Heddlu De Cymru, gan ddod i gasgliadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Goruchwylio cynnydd arolygiadau’r heddlu mewn perthynas ag argymhellion a wnaed gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS).
  • Hyrwyddo atebolrwydd a dilysrwydd plismona drwy gydlynu gweithgarwch Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd yr Heddlu (PALG), gan sicrhau bod partneriaid ac aelodau o’r gymuned yn cael eu cynnwys yn y gwaith o oruchwylio a herio Heddlu De Cymru.
  • Cydlynu gweithgarwch Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol Cymru Gyfan er mwyn sicrhau bod pobl hil leiafrifiedig ledled Cymru yn gallu dwyn cyfiawnder troseddol i gyfrif am gynnydd tuag at wrth-hiliaeth.

Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona (PALG)

Mae’r grŵp yn galluogi sefydliadau allanol ac aelodau annibynnol o’r gymuned i weithredu fel ffrindiau critigol i Heddlu De Cymru, gan gefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ei rôl o graffu a sicrhau bod Heddlu De Cymru yn atebol, yn dryloyw ac yn ddilys.

Darganfod mwy

Ymatebion Arolygu HMICFRS

Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) yn asesu yn annibynnol effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr heddluoedd a’r gwasanaethau tân ac achub. Mae HMICFRS yn arolygu heddluoedd yn genedlaethol yn rheolaidd drwy Raglen Arolygu Thematig. Mae’r arolygiadau hyn yn swyddogaeth gritigol sy’n galluogi’r cyhoedd, yr heddluoedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i ddeall pa mor dda mae’r heddluoedd lleol yn perfformio. Mae HMICFRS yn holi cwestiynau y maent yn credu sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, gan ddefnyddio eu harbenigedd i ddehongli tystiolaeth ac i gyhoeddi gwybodaeth glir.

Mae gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu gyfrifoldeb i ymateb i adroddiadau sy’n cael eu cyhoeddi gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) mewn perthynas â’i heddlu ef/hi o fewn 56 diwrnod calendr o’r adroddiad. Mae’r cyfarwyddiadau wedi’u nodi yn Adran 55 o Ddeddf yr Heddlu 1996.

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu anfon yr ymatebion hyn i HMICFRS a’r Swyddfa Gartref  ac yna eu cyhoeddi yn y modd y cred sydd fwyaf addas – a restrir isod ar gyfer Heddlu De Cymru.

Cliciwch Yma