Prif Gyfrifoldebau
Mae Lisa yn gweithio i gomisiynu a monitro’r contract Ymyrraeth Adfer Defnyddio Sylweddau i Wasanaethau Cyfiawnder, sef contract sy’n cefnogi pobl sy’n gadael y carchar neu sy’n rhan o Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ac sy’n defnyddio sylweddau, er mwyn asesu unigolion, ymgysylltu â nhw a’u dargyfeirio rhag cyflawni troseddau a’u cyfeirio, yn lle hynny, i ymyrraeth briodol, gan gefnogi’r gwaith o leihau niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol a lleihau lefelau troseddu.
Mae Lisa yn cydweithio â Heddlu De Cymru a phartneriaid i ysgogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau dau, tri a phedwar yng Nghynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae Lisa yn gwneud hyn drwy ddefnyddio’r amryw ddulliau ysgogi sydd ar gael i’r swyddfa, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â’r Byrddau Cynllunio Ardal ledled De Cymru sy’n rhannu’r cyfrifoldeb am ddatblygu, darparu a gwella gwasanaethau defnyddio sylweddau effeithlon ac effeithiol, i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Gweithio i gyflawni cynllun cyflawni Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru.