Neddf Dedfrydu 2026 - Mynediad Gymorth

Os yw’r newidiadau hyn wedi effeithio arnoch chi neu os ydych chi’n pryderu am ryddhau troseddwyr, mae gwasanaethau lleol ar gael i’ch cefnogi. Dysgwch fwy am sut gallwch gael gafael ar gymorth isod.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi sefydlu Llinell Gymorth Rhyddhau Troseddwyr bwrpasol sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth emosiynol ac ymarferol. Mae’r llinell hefyd yn helpu pobl sy’n poeni am droseddwr yn cael ei ryddhau, neu bobl y mae hyn yn effeithio arnynt, i gael mynediad at wasanaethau eraill.

Pwrpas y Llinell Gymorth yw:

  • Gwrando ar bryderon dioddefwyr a goroeswyr a chynnig cymorth emosiynol iddynt
  • Trafod lles, diogelwch a’r camau nesaf posibl
  • Rhoi arweiniad ymarferol a helpu’r rhai hynny sy’n ffonio i ddeall beth gall y newidiadau ei olygu
  • Esbonio sut y gall rhywun ofyn am ragor o wybodaeth. Ni fydd y Llinell Gymorth yn gallu darparu manylion penodol am achosion na dyddiadau rhyddhau.
  • Helpu pobl i gael mynediad at gymorth parhaus neu arbenigol pan fo hynny’n briodol

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth ar 0808 168 9280.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Llinell Gymorth a’r cymorth sydd ar gael yn https://victimsupport.org.uk/offender-release-helpline.

Llinell Cymorth

Neddf Dedfrydu 2026 - Cymorth Arbenigol yn ne Cymru

Gyda chymorth cyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi comisiynu pwynt cyswllt unigol lleol ledled ardal de Cymru ar ffurf Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar (Multi-Crime Early Release Scheme Victims’ Champion).

Bydd ein Hyrwyddwr Dioddefwyr arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â dioddefwyr a goroeswyr y mae newidiadau yn y cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi effeithio arnynt, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu hysbysu a’u cefnogi

Bydd yr Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar yn cynnig y canlynol:

  • Eiriolaeth a chyswllt â’r heddlu, y gwasanaeth prawf, llysoedd ac asiantaethau eraill i helpu i gasglu gwybodaeth a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
  • Asesiadau anghenion unigol fydd yn nodi gofynion cymorth ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch a chymorth priodol.
  • Cymorth ymarferol a gwasanaethau cyfeirio, gan gynnwys cymorth â materion tai, pryderon am addysg, a gorchmynion amddiffyn.
  • Cydlynu â gwasanaethau cymorth ac asiantaethau partner i sicrhau eich bod yn cael cymorth cydgysylltiedig ac yn cael gafael ar y cymorth lleol sydd ar gael i chi.

Os hoffech gael cymorth drwy Hyrwyddwr Dioddefwyr y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar, ffoniwch Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar 0300 303 0161.

Fel arall, gallwch ddilyn y broses hunanatgyfeirio ar wefan Atgyfeiriadau Dioddefwyr/Tystion – Ffocws Dioddefwyr De Cymru

Cymorth

Cyfeiriadur Dioddefwyr

Mae’r tudalen hwn yn darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr a thystion yn dilyn trosedd.

Cyfeiriadur Dioddefwyr

CAVDAS

Caerdydd a Bro Morgannwg/Cymru

Mae CAVDAS yn derbyn atgyfeiriadau gan bobl yng Nghaerdydd a'r Fro sy'n cael eu heffeithio gan gyffuriau ac alcohol.

Cymorth i Fenywod Abertawe

Abertawe/Cymru

Sefydliad i fenywod un unig sy’n cefnogi menywod, gyda phlant neu heb blant, yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig.

Cymorth i Ferched Cymru

Caerdydd/Cymru

Gwasanaeth cymorth i fenywod a phlant sy’n profi cam-drin domestig a phob math o drais

Cymru Ddiogelach

Caerdydd/Cymru

Elusen annibynnol sydd â’r nod o gefnogi, diogelu a grymuso grwpiau o bobl sydd yn aml yn anweladwy mewn cymdeithas.

Cyngor Trydydd Sector Caerdydd

Cardiff/United Kingdom

Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd yn bodoli i gefnogi a datblygu trydydd sector Caerdydd. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a CGGC, rydym wedi ymroi i gynyddu gwybodaeth a sgiliau’r sector i sicrhau bod grwpiau a sefydliadau yng Nghaerdydd yn gallu gwneud eu hunain yn gynaliadwy a diwallu anghenion eu cymunedau.

DAN 24/7

Cymru

Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, a elwir hefyd yn DAN 24/7 yn cael ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth ffôn ddwyieithog am ddim sy'n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau rhagor o wybodaeth a / neu help sy'n ymwneud â chyffuriau a/neu alcohol.

The service is available 24 hours a day, 7 days a week.

The helpline will assist individuals, their families, carers, and support workers within the drug and alcohol field to access appropriate local and regional services.

DASPA

Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful/Wales

DASPA yw'r pwynt cyswllt unigol i bobl ledled Cwm Taf Morgannwg (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr) y mae cyffuriau ac alcohol yn effeithio arnynt.

Dyn Safer Wales

Cymru

Gweithio ar draws Cymru i gefnogi dynion sy'n profi cam-drin domestig. Mae Prosiect Dyn yn darparu cefnogaeth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thraws sy'n profi cam-drin gan bartner. Maent yn darparu cymorth cyfrinachol a chymorth i ddynion sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig i ddod o hyd i'r gwasanaethau gorau sydd ar gael yn eu hardal leol. Mae hyn yn cynnwys cynllunio diogelwch, cyfeirio at wasanaethau ledled Cymru, cyngor a chefnogaeth emosiynol.

EYST

Swansea/United Kingdom

Sefydlwyd Tîm Cefnogi Pobl Ifanc a Lleiafrifoedd Ethnig yn 2005 gan grŵp o bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig yn Abertawe.

Ei nod oedd llenwi bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc dduon a lleiafrifoedd ethnig 11-25 oed drwy ddarparu gwasanaeth cymorth cyfannol, diwylliannol sensitif i ddiwallu eu hanghenion.

Ffocws Dioddedfwyr De Cymru

Gwasanaeth lleol sy’n cael ei redeg gan yr elusen genedlaethol a lleol, Cymorth i Ddioddefwyr. Rydym yn rhoi help a chefnogaeth i unrhyw un yn Ne Cymru y mae troseddu wedi effeithio arnynt

Galop

Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol i bobl LHDT

GT Cymru

Caerdydd/United Kingdom

Rydym yn cefnogi ac yn galluogi Sipsiwn a Theithwyr i gyflawni safon byw deg ac o ansawdd uchel.

Warning

Sylwch fod y sefydliadau hyn yn wahanol i'r gwasanaethau brys, maent yn darparu cymorth ac adnoddau arbenigol ar gyfer gwahanol anghenion, gan gynnig ffyrdd ychwanegol o gymorth y tu hwnt i ymateb ar unwaith.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng, ffoniwch 101.

Tudalen 2 o 5