Neddf Dedfrydu 2026 - Mynediad Gymorth
Os yw’r newidiadau hyn wedi effeithio arnoch chi neu os ydych chi’n pryderu am ryddhau troseddwyr, mae gwasanaethau lleol ar gael i’ch cefnogi. Dysgwch fwy am sut gallwch gael gafael ar gymorth isod.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi sefydlu Llinell Gymorth Rhyddhau Troseddwyr bwrpasol sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth emosiynol ac ymarferol. Mae’r llinell hefyd yn helpu pobl sy’n poeni am droseddwr yn cael ei ryddhau, neu bobl y mae hyn yn effeithio arnynt, i gael mynediad at wasanaethau eraill.
Pwrpas y Llinell Gymorth yw:
- Gwrando ar bryderon dioddefwyr a goroeswyr a chynnig cymorth emosiynol iddynt
- Trafod lles, diogelwch a’r camau nesaf posibl
- Rhoi arweiniad ymarferol a helpu’r rhai hynny sy’n ffonio i ddeall beth gall y newidiadau ei olygu
- Esbonio sut y gall rhywun ofyn am ragor o wybodaeth. Ni fydd y Llinell Gymorth yn gallu darparu manylion penodol am achosion na dyddiadau rhyddhau.
- Helpu pobl i gael mynediad at gymorth parhaus neu arbenigol pan fo hynny’n briodol
Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth ar 0808 168 9280.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Llinell Gymorth a’r cymorth sydd ar gael yn https://victimsupport.org.uk/offender-release-helpline.
Llinell CymorthNeddf Dedfrydu 2026 - Cymorth Arbenigol yn ne Cymru
Gyda chymorth cyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi comisiynu pwynt cyswllt unigol lleol ledled ardal de Cymru ar ffurf Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar (Multi-Crime Early Release Scheme Victims’ Champion).
Bydd ein Hyrwyddwr Dioddefwyr arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â dioddefwyr a goroeswyr y mae newidiadau yn y cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi effeithio arnynt, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu hysbysu a’u cefnogi
Bydd yr Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar yn cynnig y canlynol:
- Eiriolaeth a chyswllt â’r heddlu, y gwasanaeth prawf, llysoedd ac asiantaethau eraill i helpu i gasglu gwybodaeth a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
- Asesiadau anghenion unigol fydd yn nodi gofynion cymorth ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch a chymorth priodol.
- Cymorth ymarferol a gwasanaethau cyfeirio, gan gynnwys cymorth â materion tai, pryderon am addysg, a gorchmynion amddiffyn.
- Cydlynu â gwasanaethau cymorth ac asiantaethau partner i sicrhau eich bod yn cael cymorth cydgysylltiedig ac yn cael gafael ar y cymorth lleol sydd ar gael i chi.
Os hoffech gael cymorth drwy Hyrwyddwr Dioddefwyr y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar, ffoniwch Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar 0300 303 0161.
Fel arall, gallwch ddilyn y broses hunanatgyfeirio ar wefan Atgyfeiriadau Dioddefwyr/Tystion – Ffocws Dioddefwyr De Cymru
CymorthCyfeiriadur Dioddefwyr
Mae’r tudalen hwn yn darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr a thystion yn dilyn trosedd.
Cyfeiriadur DioddefwyrGwasanaethau Cam-drin Domestig RhCT
Aberdare,Cymorth cam-drin domestig i'r rhai yn ardal Rhondda Cynon Taf
Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro
Bro Morgannwg/CymruHelpu dioddefwyr ym Mor Morgannwg
Information Commissioner’s Office
Cheshire/UKMae gwefan yr ICO yn rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol i'r cyhoedd mewn perthynas â'u hawliau diogelu data a gwybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, GDPR y DU a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Karma Nirvana
Llinell Gymorth Cam-drin ar sail Anrhydedd yn y DU
Llinell Gymorth
Mae’n darparu llinell gymorth gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol
Llinell Gymorth
Mae’n darparu llinell gymorth gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol
Llwybrau Newydd
Merthyr Tydfil/CymruGwasanaeth cymorth arbenigol i oedolion a phlant yr effeithiwyd arnynt gan achosion o dreisio, cam-drin rhywiol a thrais rhywiol
Men’s Advice Line
Llinell gymorth ar gyfer dynion sy'n dioddef cam-drin domestig. Maent yn cynnig cefnogaeth emosiynol anfeirniadol, cyngor ymarferol a gwybodaeth.
Merthyr Tudful Mwy Diogel
Cefnogi’r rhai yn ardal Merthyr Tudful
NAPAC (Cymdeithas Genedlaethol Pobl sy’n cael eu Cam-drin yn ystod Plentyndod)
Mae NAPAC (Cymdeithas Genedlaethol Pobl sy'n cael eu Cam-drin yn ystod Plentyndod) yn cynnig cymorth i oedolion sy'n goroesi pob math o gam-drin plant, gan gynnwys camdriniaeth gorfforol, rhywiol, emosiynol neu esgeulustod. NAPAC yw'r unig wasanaeth cymorth cenedlaethol am ddim i oedolion sy'n goroesi o bob math o gam-drin plant. Maent yn cynnig cymorth arbenigol a chyfrinachol i bob oedolyn sy'n goroesi unrhyw fath o gamdriniaeth, a weithredir gan staff profiadol a gwirfoddolwyr hyfforddedig.
NSPCC
Prif elusen plant y DU, atal cam-drin a helpu'r rhai yr effeithir arnynt i wella.
Platfform
Abertawe/United KingdomDros iechyd meddwl a newid cymdeithasol.
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl, a gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o synnwyr o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd y maen nhw’n byw ynddynt.
Sylwch fod y sefydliadau hyn yn wahanol i'r gwasanaethau brys, maent yn darparu cymorth ac adnoddau arbenigol ar gyfer gwahanol anghenion, gan gynnig ffyrdd ychwanegol o gymorth y tu hwnt i ymateb ar unwaith.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng, ffoniwch 101.