Ymwelodd y Comisiynydd ag Abertawe a Chastell-nedd, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod hawliau plant a lleisiau pobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Nôl ym mis Hydref, lansiodd y Comisiynydd y Cynllun Yn ddiogel, Yn cael eich clywed ac Yn cael eich parchu, strategaeth a luniwyd gan ystyried safbwyntiau dros 5,000 o bobl ifanc. Ers hynny, bu’n flaenoriaeth i’r Comisiynydd gyfarfod â’r grwpiau a gyflwynodd eu barn er mwyn llunio’r cynllun hwn.
Dywedodd y Comisiynydd, Emma Wools:
“Mae’r Cynllun ‘Yn Ddiogel, yn cael eich clywed ac yn cael eich parchu’ yn agos at fy nghalon gan ei fod yn sicrhau bod anghenion, syniadau a blaenoriaethau plant a phobl ifanc wrth wraidd fy ngwaith. Dyma’r cyntaf o’i fath yn Ne Cymru ac mae wedi cael ei lywio gan yr hyn a ddywedodd plant a phobl ifanc wrtha i sydd bwysicaf iddynt: teimlo’n ddiogel, cael eu clywed a chael eu trin yn deg.
Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn gweld pa mor bwysig yw eu mewnbwn, gan ddylanwadu ar gamau gweithredu a blaenoriaethau gwasanaethau fel plismona, addysg a’r system cyfiawnder troseddol ehangach. Dyna pam mae mor bwysig i mi, fy mod i’n mynd allan ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r bobl ifanc a gyfrannodd at y Cynllun, gan ddangos iddynt sut mae eu hadborth wedi’i lywio a sut rydym yn bwriadu ei gyflawni.”
Fel rhan o’i hymweliad â Chastell-nedd ac Abertawe, cyfarfu’r Comisiynydd â dau grŵp a oedd ymhlith y llu o bobl ifanc a wnaeth rannu eu safbwyntiau a’u profiadau.”
I ddechrau, cyfarfu’r Comisiynydd â phobl ifanc ysbrydoledig sy’n rhan o ‘Hope’ – sef grŵp hawliau merched sy’n gweithio i roi llais i blant sydd wedi bod mewn gofal. Roedd y Comisiynydd wrth ei bodd cael dysgu mwy am y gwaith gwych y mae’r grŵp yn ei wneud i hyrwyddo hawliau merched ac i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed mewn perthynas â’r materion sydd bwysicaf iddynt. Yna, teithiodd y Comisiynydd i Abertawe, i gyfarfod â’r Mums and Toddlers Foundation, elusen yn Abertawe sy’n canolbwyntio ar gefnogi mamau o gymunedau BAME ac sy’n darparu adnoddau hanfodol ac yn creu lle cefnogol i famau fynd iddo.
Ymweliad cwbl ysbrydoledig, gan dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod hawliau plant yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Heddlu gweledol yn gwneud gwahaniaeth: Mae’r Comisiynydd yn gweld y dylanwad yn bersonol yng nghanol y dref Merthyr
UALIT yn Ymuno ag Ymdrech Genedlaethol yng Nghynhadledd Rhaglen Lleihau Trais Difrifol y Swyddfa Gartref