Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ariannu ymgyrch ‘Jog On’ i fynd i’r afael ag aflonyddu ar y stryd ac annog riportio

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ariannu ymgyrch ‘Jog On’ i fynd i’r afael ag aflonyddu ar y stryd ac annog riportio

Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i amddiffyn pobl a chymunedau sy’n agored i niwed, gan sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel, bod cymorth yno iddyn nhw ac yn hyderus i riportio pryderon.

Mae’r ymrwymiad hwnnw wedi’i atgyfnerthu drwy fuddsoddi yn yr ymgyrch ‘Jog On’, sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r aflonyddu a brofir gan redwyr benywaidd ac annog mwy o bobl i riportio digwyddiadau.

Mae’r ymgyrch yn dilyn arolwg a gynhaliwyd gan Heddlu De Cymru, a ddarganfu bod mwy na dwy ran o dair o redwyr benywaidd yn ne Cymru wedi profi rhyw fath o aflonyddu ar y stryd wrth ymarfer corff. Dywedodd llawer ohonynt fod y profiadau hyn yn effeithio ar ba mor ddiogel roedden nhw’n teimlo, a gwnaeth rhai newid eu llwybrau rhedeg, newid yr hyn roedden nhw’n ei wisgo, neu ddewis peidio â rhedeg ar eu pennau eu hunain.

Mewn ymateb, mae’r ymgyrch ‘Jog On’ yn cyflwyno neges glir bod unrhyw fath o aflonyddu yn annerbyniol a bydd yn cael ei gymryd o ddifrif pan gaiff ei riportio.

Ochr yn ochr â chodi ymwybyddiaeth, ategir yr ymgyrch gan waith parhaus Heddlu De Cymru gyda chymunedau lleol, gan gynnwys ymgysylltu mewn digwyddiadau parkrun, clybiau rhedeg a mentrau sy’n hyrwyddo diogelwch menywod mewn chwaraeon. Bydd swyddogion yn annog riportio digwyddiadau, yn gwrando ar brofiadau rhedwyr ac yn cefnogi pobl i fynd ati i gamu i’r adwy pan fyddant yn dyst i ymddygiad amhriodol.

Drwy weithio ar y cyd, nod yr ymgyrch yw helpu i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau rhedeg ac ymarfer corff yn ddiogel, yn hyderus ac heb aflonyddu.

I gael rhagor o wybodaeth am aflonyddu ar y stryd, beth gall ei gynnwys, a sut mae’r ymgyrch ‘Jog On’ yn helpu i fynd i’r afael â’r ymddygiadau hyn, gweler ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Beth yw aflonyddu yn y cyd-destun hwn?

Ymddygiad digroeso sy’n bygwth neu’n codi ofn ar fenywod sy’n rhedeg ac yn loncian yn gyhoeddus. Mae’r rhain yn fwy nag ymddygiadau digroeso – yn aml, troseddau ydyn nhw. Gall ymddygiadau gynnwys:

  • Cilwenu neu syllu’n barhaus -edrych ar rywun mewn ffordd ddigroeso, ffordd sy’n codi ofn neu ffordd rywiol.
  • Heclo/chwibanu – sylwadau rhywiol digroeso, ystumiau a chwibanu, yn aml i godi ofn ar y dioddefwr.

Felly beth yw’r ymgyrch JogOn?

Mae JogOn yn ymgyrch sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r aflonyddu y mae menywod yn ei wynebu wrth redeg a loncian, drwy godi ymwybyddiaeth i annog riportio ac atal digwyddiadau, hyfforddiant i annog tystion i fynd ati i gamu i’r adwy, a gorfodi’r heddlu i gymryd camau yn erbyn cyflawnwyr aflonyddu parhaus.

Felly pam mae angen JogOn yn ne Cymru?

Mae arolwg gan Heddlu De Cymru wedi dangos effaith aflonyddu ar y stryd ar fenywod a merched wrth loncian neu redeg.

Mae’r canlyniadau wedi ein hysbysu bod 68% (117) o redwyr benywaidd a ymatebodd i’r arolwg wedi profi aflonyddu ar y stryd neu ymddygiad camdriniol wrth gymryd rhan yn eu hobi gan gynnwys heclo ac ymosodiadau corfforol neu rywiol.

Beth yw manteision JogOn i fenywod?

Mae menywod yn newid eu llwybrau a’u harferion, yn rhoi’r gorau i’w hobi o redeg neu loncian, nid ydynt bellach yn rhedeg ar eu pennau eu hunain nac yn rhannu lleoliadau â theulu a ffrindiau, maent yn gwisgo dillad gwahanol, yn osgoi gwrando ar gerddoriaeth i atal aflonyddu a cheir ymosodiadau corfforol a rhywiol hyd yn oed. Mae’r ymddygiadau hyn, dim ond i gadw’n heini a theimlo’n ddiogel yn eu cymunedau eu hunain, yn ffordd annerbyniol o fyw. Ein nod yw de Cymru lle gall pawb ymarfer eu hobïau yn ddiogel heb boeni – ni waeth beth fo amser y dydd neu’r mis o’r flwyddyn.

Beth yw manteision JogOn i bawb?

Nid oed modd mynd i’r afael ag aflonyddu ar wahân. Bydd angen i ni i gyd sefyll i fyny a newid yr ymddygiadau niweidiol hyn drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth. Dim ond dechreuad yw JogOn i glybiau rhedeg ledled de Cymru, ond doed dim rhaid bod yn rhan o glwb, na rhedeg neu loncian yn aml, gallwch chi feddwl – JogOn.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi fod yn rhan o JogOn drwy glicio ar y botwm isod (allanol).

Jog On (allanol)

Rhowch wybod i ni

Os ydych chi’n destun unrhyw fath o aflonyddu, cysylltwch â Heddlu De Cymru:

Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 bob tro.

Os nad ydych chi’n dymuno siarad â’r heddlu, gallwch hefyd gysylltu ag elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar-lein (allanol) neu drwy ffonio 0800 555 111.

Rydym yn gwybod y gall y troseddau hyn effeithio ar unrhyw un a bydd pawb sy’n riportio yn cael eu cymryd o ddifrif, ond y dystiolaeth aruthrol yw bod menywod a merched yn fwyaf tebygol o gael eu targedu a dyna pam rydym yn mynd i’r afael â’r mater yn y modd hwn

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:

“Mae cefnogi dioddefwyr a phobl agored i niwed a chreu cymunedau mwy diogel i bawb yn flaenoriaeth allweddol yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.

Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel ac yn hyderus yn eu bywydau beunyddiol nhw. Nid oes lle i fygwth, heclo nac ymosod yn ein cymunedau. Ni ddylai neb deimlo bod yn rhaid iddi oddef aflonyddu na chredu na fydd riportio yn gwneud gwahaniaeth. Rydym am i bobl ddeall nad yw’r ymddygiad hwn byth yn dderbyniol ac i deimlo eu bod wedi’u grymuso i’w riportio, gan wybod y bydd rhywun yn gwrando, yn eu cymryd o ddifrif ac yn eu cefnogi.

Dyna pam rwy’n falch o helpu i ariannu’r ymgyrch bwysig hon JogOn, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth, annog riportio ac anfon neges glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef.

Drwy weithio ar y cyd, gallwn herio ymddygiad annerbyniol, cefnogi’r rhai hynny y mae’n effeithio arnynt, a helpu i greu de Cymru ddiogel, gyfiawn a chynhwysol.”

Cynllun Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar y Cyd De Cymru

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Donna Llewellyn, arweinydd yr heddlu ar gyfer materion Trais yn Erbyn Menywod a Merched:

“Ein neges i dramgwyddwyr sy’n aflonyddu ar y stryd yw hyn: ni fyddwn yn goddef eich gweithredoedd. Am gyfnod rhy hir mae menywod wedi newid eu hymddygiad i deimlo’n ddiogel, ond o hyn ymlaen chi sy’n gorfod newid.

Nid yw sylwadau sy’n dangos casineb at fenywod ac ymddygiadau ysglyfaethus yn dderbyniol yn ein cymunedau.

Mae heclo bellach yn drosedd. Gallwch nawr gael cofnod troseddol a hyd at ddwy flynedd yn y carchar am aflonyddu rhywun yn gyhoeddus ar sail rhyw.

Byddwn yn ei gymryd o ddifrif a byddwn yn gweithredu.”

Gweld Fi (allanol)

Cyfeiriadur Dioddefwyr

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais, mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth cenedlaethol a lleol. Ceir gwybodaeth am y gwasanaethau hyn a sut i gysylltu â nhw yn y Cyfeiriadur Dioddefwyr.

Cyfeiriadur Dioddefwyr

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn Lansio Ymgyrch ar y Cyd yn Annog Pobl i Gerdded i Ffwrdd o Wrthdaro

Deall y newidiadau yn Neddf Dedfrydu 2026 a Sut I Gael Cymorth

Place-based Policing title page

Plismona ar Sail Lle – Awst