Deall y newidiadau yn Neddf Dedfrydu 2026 a Sut I Gael Cymorth

Beth yw'r Cynllun Rhyddhau Carcharorion yn Gynnar (y Model Cynnydd) a pham mae'n newid ar 1 Hydref 2026?

Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno newidiadau i drefniadau rhyddhau o’r carchar drwy Ddeddf Dedfrydu 2026. Bwriad y newidiadau yw helpu i sicrhau bod digon o le mewn carchardai, gan sicrhau bod troseddwyr yn cael eu goruchwylio’n llym pan gânt eu rhyddhau i gadw dioddefwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ddiogel.

Mae Deddf Dedfrydu 2026 yn newid faint o amser y bydd rhai troseddwyr yn ei dreulio yn y carchar cyn cael eu rhyddhau i fwrw gweddill eu dedfryd ar drwydded.

Bydd model tri cham newydd o’r enw ‘Model Cynnydd’ yn cael ei gyflwyno ar gyfer dedfrydau penodol safonol. Mae diogelu dioddefwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Bydd pob troseddwr sy’n cael ei ryddhau drwy’r Model Cynnydd yn destun amodau trwydded llym a chyfnod o oruchwyliaeth ddwys.

Dysgu Mwy

Sut bydda i'n cael gwybod os bydd rhywun a gyflawnodd drosedd yn fy erbyn yn cael ei ryddhau?

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr ac wedi cofrestru ar ei gyfer, dylech gael gwybodaeth am droseddwyr sy’n cael eu rhyddhau’n gynnar. Gallwch gyflwyno sylwadau am amodau’r drwydded hefyd. Mae’n bwysig iawn eich bod yn cofrestru i fod yn rhan o’r cynllun a’ch bod yn sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gyfredol os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun. Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod dedfryd troseddwr.

Nid yw’r newidiadau’n berthnasol i fwy na 18,000 o droseddwyr. I weld rhestr o droseddau nad yw’r model hwn yn berthnasol iddynt, ewch i Troseddau wedi’u heithrio yn y Ddeddf Dedfrydu (yn agor mewn ffenestr newydd).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Model Cynnydd, yr hyn sy’n newid, sut gellir rhoi gwybod i ddioddefwyr a pha gymorth sydd ar gael yn: Canllaw i ddioddefwyr am y newidiadau i drefniadau rhyddhau o’r carchar – GOV.UK (yn agor mewn ffenestr newydd)

Dysgu Mwy

Sut i gael mynediad at gymorth

Os yw’r newidiadau hyn wedi effeithio arnoch chi neu os ydych chi’n pryderu am ryddhau troseddwyr, mae gwasanaethau lleol ar gael i’ch cefnogi. Dysgwch fwy am sut gallwch gael gafael ar gymorth isod.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi sefydlu Llinell Gymorth Rhyddhau Troseddwyr bwrpasol sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth emosiynol ac ymarferol. Mae’r llinell hefyd yn helpu pobl sy’n poeni am droseddwr yn cael ei ryddhau, neu bobl y mae hyn yn effeithio arnynt, i gael mynediad at wasanaethau eraill.

Pwrpas y Llinell Gymorth yw:

  • Gwrando ar bryderon dioddefwyr a goroeswyr a chynnig cymorth emosiynol iddynt
  • Trafod lles, diogelwch a’r camau nesaf posibl
  • Rhoi arweiniad ymarferol a helpu’r rhai hynny sy’n ffonio i ddeall beth gall y newidiadau ei olygu
  • Esbonio sut y gall rhywun ofyn am ragor o wybodaeth. Ni fydd y Llinell Gymorth yn gallu darparu manylion penodol am achosion na dyddiadau rhyddhau.
  • Helpu pobl i gael mynediad at gymorth parhaus neu arbenigol pan fo hynny’n briodol

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth ar 0808 168 9280.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Llinell Gymorth a’r cymorth sydd ar gael yn https://victimsupport.org.uk/offender-release-helpline.

 

Llinell Gymorth

Cymorth arbenigol yn ne Cymru

Gyda chymorth cyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi comisiynu pwynt cyswllt unigol lleol ledled ardal de Cymru ar ffurf Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar (Multi-Crime Early Release Scheme Victims’ Champion).

Bydd ein Hyrwyddwr Dioddefwyr arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â dioddefwyr a goroeswyr y mae newidiadau yn y cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi effeithio arnynt, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu hysbysu a’u cefnogi.

Bydd yr Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar yn cynnig y canlynol:

  • Eiriolaeth a chyswllt â’r heddlu, y gwasanaeth prawf, llysoedd ac asiantaethau eraill i helpu i gasglu gwybodaeth a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
  • Asesiadau anghenion unigol fydd yn nodi gofynion cymorth ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch a chymorth priodol.
  • Cymorth ymarferol a gwasanaethau cyfeirio, gan gynnwys cymorth â materion tai, pryderon am addysg, a gorchmynion amddiffyn.
  • Cydlynu â gwasanaethau cymorth ac asiantaethau partner i sicrhau eich bod yn cael cymorth cydgysylltiedig ac yn cael gafael ar y cymorth lleol sydd ar gael i chi.

Os hoffech gael cymorth drwy Hyrwyddwr Dioddefwyr y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar, ffoniwch Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar 0300 303 0161.

Fel arall, gallwch ddilyn y broses hunanatgyfeirio ar wefan Atgyfeiriadau Dioddefwyr/Tystion – Ffocws Dioddefwyr De Cymru

 

Cymorth

Cymorth ychwanegol

Os ydych chi wedi cael cymorth gan wasanaeth cymorth neu wasanaeth i ddioddefwyr yn lleol yn y gorffennol, efallai yr hoffech chi gysylltu â nhw eto os yw’r cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi effeithio arnoch.

Os hoffech archwilio ffynonellau cymorth eraill, ceir rhestr o wasanaethau isod. Gallwch ddefnyddio ein Cyfeiriadur Dioddefwyr hefyd, sy’n rhestru manylion sefydliadau arbenigol lleol a chenedlaethol.

Cyfeiriadur Dioddefwyr – Cyfeiriadur Dioddefwyr – Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

I gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth cyfrinachol ynghylch cam-drin domestig a thrais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn.

Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn drwy’r dulliau canlynol:

Ffôn: 0808 80 10 800 (ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)

Testun: 07860077333 (ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru (ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)

 

 

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Place-based Policing title page

Plismona ar Sail Lle – Awst

Dyfyniad: "Mae atal yn ymwneud â mwy na lleihau troseddu. Mae'n golygu creu cyfleoedd, meithrin gwydnwch a helpu cymunedau i ffynnu"

Meithrin Cymunedau Mwy Diogel Drwy Atal a Phartneriaeth

PCC with Foundation 4 Sport Cardiff staff members

Creu cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc ledled Caerdydd