Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn Lansio Ymgyrch ar y Cyd yn Annog Pobl i Gerdded i Ffwrdd o Wrthdaro

Un Ergyd
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools, a Heddlu De Cymru wedi lansio ymgyrch Un Ergyd ar y cyd gyda’r nod o addysgu pobl am risgiau a chanlyniadau trais a phenderfyniadau byrbwyll a wneir mewn dicter.

Wedi’i chreu gan Heddlu De Cymru, mae’r ymgyrch wedi’i hariannu drwy Uned Atal a Lleihau Trais y Comisiynydd fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd, sy’n adlewyrchu ymrwymiad y Comisiynydd i atal trais a chreu cymunedau mwy diogel ledled de Cymru.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd (5 – 9 Hydref) yn ymgyrch flynyddol yn y Deyrnas Unedig sy’n codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau difrifol trais un ergyd a allai fod yn angheuol.

Drwy fuddsoddi yn yr ymgyrch hon a’i chefnogi, nod y Comisiynydd yw annog unigolion i gydnabod pan fydd sefyllfa’n gwaethygu ac i ddewis cerdded i ffwrdd yn lle peri trais, gan gydnabod y gall penderfyniadau byrbwyll pan fyddwch yn grac arwain at ganlyniadau gydol oes.

Gall trais un ergyd gael canlyniadau dinistriol, gan achosi anafiadau difrifol, colli bywyd ac effeithiau hirdymor i ddioddefwyr, teuluoedd a throseddwyr fel ei gilydd. Ni ddylai neb orfod poeni am drais wrth dreulio amser yn ei gymuned neu fwynhau noson allan.

Mae’r ymgyrch hon yn annog mwy o gyfrifoldeb personol, yn hyrwyddo gwneud penderfyniadau cadarnhaol, ac yn cefnogi ymdrechion parhaus i greu canol trefi a dinasoedd mwy diogel ac economi liw nos fwy diogel ledled de Cymru.

Wrth wraidd y ffilm mae neges syml ond pwysig: gall cerdded i ffwrdd o wrthdaro cyn iddo droi’n dreisgar achub bywydau ac atal canlyniadau sy’n newid bywydau i bawb dan sylw.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:

“Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd yn gyfle hanfodol i addysgu pobl am risgiau trais a’u helpu i gydnabod pan fydd tensiynau’n cynyddu , gan eu hannog i gerdded i ffwrdd cyn i sefyllfa droi’n dreisgar.

 Mae pob ergyd yn un yn ormod, a gall penderfyniad byrbwyll pan fyddwch wedi’ch gwylltio arwain at ganlyniadau fydd yn parhau am oes.

 Dyna pam rwyf wedi ymroi i gefnogi a buddsoddi mewn ymgyrchoedd fel Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd, sy’n annog dewisiadau cadarnhaol ac yn helpu i atal trais cyn iddo ddigwydd. Mae’r ymgyrch hon yn adlewyrchu fy mlaenoriaeth o greu trefi a chanol dinasoedd mwy diogel ledled de Cymru a lleihau troseddu a thrais, fel y nodir yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.

 Mae gan bawb rôl i’w chwarae yn creu cymunedau mwy diogel. Os ydych chi’n teimlo bod sefyllfa yn gwaethygu, gwnewch y penderfyniad cywir: cerddwch i ffwrdd, peidiwch â dewis trais.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion

Deall y newidiadau yn Neddf Dedfrydu 2026 a Sut I Gael Cymorth

Place-based Policing title page

Plismona ar Sail Lle – Awst

Dyfyniad: "Mae atal yn ymwneud â mwy na lleihau troseddu. Mae'n golygu creu cyfleoedd, meithrin gwydnwch a helpu cymunedau i ffynnu"

Meithrin Cymunedau Mwy Diogel Drwy Atal a Phartneriaeth