Yn Eich Cymuned: O batrolau i bartneriaethau ar draws Caerdydd

Yn ddiweddar, roedd y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu allan yng Nghaerdydd yn rhan o’i hymgyrch Diwrnodau Yn Eich Cymuned ddiweddaraf, gan dreulio amser gyda thrigolion, gwirfoddolwyr a’r tîm plismona yn y gymdogaeth lleol i weld drosti ei hun sut mae buddsoddiad lleol a gweithio mewn partneriaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned. 

Dechreuodd y Comisiynydd y diwrnod yn Butetown, lle ymunodd â swyddogion cymdogaeth wrth iddynt gerdded o amgylch yr ardal, i glywed am effaith buddsoddiadau sy’n seiliedig ar le yn ystod y Gaeaf o Weithredu. Mae’r dull wedi’i dargedu hwn wedi arwain at fwy o swyddogion ar batrolau ac wedi helpu aelodau o’r gymuned i deimlo’n fwy diogel lle maen nhw’n byw. Yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr, cynhaliwyd mwy na 1600 awr o batrolau heddlu amlwg ychwanegol mewn ardaloedd sy’n profi problemau ym Mae Caerdydd.

Ochr yn ochr â hyn, darparwyd cyllid i gefnogi patrolau estynedig y tu allan i Ganolfan Huggard dros y penwythnos, sef hostel i bobl ddigartref, gan alluogi staff a swyddogion i ymateb yn fwy effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol ac argyfyngau meddygol. Mae buddsoddiad pellach hefyd wedi arwain at benodi warden llawn amser sy’n gweithio yn ardal Sgwâr Loudon a Nelson House yn Butetown bob dydd. Mae’r rôl hon wedi helpu i fynd i’r afael â materion yn gyflym ac ymateb yn uniongyrchol i bryderon a godwyd gan y gymuned, gan ddangos gwerth y camau gweithredu ataliol penodol sy’n cael eu rhoi ar waith mewn partneriaeth â’r heddlu a sefydliadau lleol. 

Mae’r mentrau hyn yn tynnu sylw at yr hyn y gellir ei gyflawni drwy dargedu adnoddau, mynd i’r afael â phroblemau yn gynnar, a gweithio gyda phartneriaid i atal niwed a gwella ansawdd bywydau pobl leol. 

Daeth yr ymweliad i ben yn Cathays, lle cafodd y Comisiynydd gyfle i gyfarfod â gwirfoddolwyr a phobl ifanc ym Mosg Dar Ul Isra. Roedd y cyfarfod yn gyfle amhrisiadwy i wrando a dysgu, meithrin dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau’r gymuned Fwslimaidd, a myfyrio ar sut y gellir parhau i gryfhau perthnasoedd cadarnhaol drwy ymgysylltu agored a gweithio mewn partneriaeth. 

Bydd y Comisiynydd yn parhau i weithio gyda chymunedau dros yr wythnosau nesaf wrth i Gronfa Partneriaeth Lleoedd Mwy Diogel ddatblygu, gan adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a chyfeirio buddsoddiadau at fentrau sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ddiogelwch a hyder y gymuned. 

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o Pencadlys Heddlu De Cymru / Picture of South Wales Police Headquarters

Y Prif Gwnstabl Vaughan yn ymddeol ac yn cael ei ailbenodi – Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Front Cover of Booklet, with image of 3 women in a heart shape made using hands

Cam-drin Domestig o Ofn i Ryddid: Canllaw i Fenywod ar draws Cymru

Picture of Police & Crime Commissioner, Emma Wools, with local Councillors, MP and Local Inspector in Whitchurch

Ymdrechion mewn partneriaeth yn dwyn ffrwyth wrth ymosod ar e-gerbydau anghyfreithlon yng Ngogledd Caerdydd