Ymdrechion mewn partneriaeth yn dwyn ffrwyth wrth ymosod ar e-gerbydau anghyfreithlon yng Ngogledd Caerdydd

Mae’r defnydd anghyfreithlon a pheryglus o e-feiciau ac e-sgwteri pwerus iawn yn parhau i fod yn bryder mawr i gymunedau lleol.

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan drigolion, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid i sicrhau bod camau gweithredu effeithiol i fynd i’r afael â’r defnydd anghyfreithlon o e-gerbydau ac i gadw cymunedau’n ddiogel.

Yn ystod ymweliad diweddar ag etholaeth Gogledd Caerdydd, cyfarfu’r Comisiynydd ag Anna McMorrin AS, cynghorwyr lleol ac Arolygydd Plismona Lleol yr ardal i drafod yr effaith y mae’r cerbydau hyn yn ei chael ar gymdogaethau ac i geisio sicrwydd bod gweithgarwch gorfodi cadarn ar waith o hyd.

Gwnaeth y Comisiynydd groesawu diweddariadau am y gwaith ar y cyd gan Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd drwy Operation Livewire, sy’n targedu’r defnydd anghyfreithlon o e-gerbydau ar ffyrdd cyhoeddus. Ers mis Awst 2025, mae’r ymgyrch wedi arwain at atafaelu tua 800 o gerbydau anghyfreithlon ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Clywodd y Comisiynydd hefyd am ymgyrch aml-asiantaeth diweddar yn cynnwys Cyngor Caerdydd, timau plismona yn y gymdogaeth, swyddogion Plismona’r Ffyrdd a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu. Canolbwyntiodd yr ymgyrch ar y defnydd anghyfreithlon o feiciau Sur-Ron pwerus iawn ac arweiniodd at dynnu 68 o e-gerbydau anghyfreithlon oddi ar strydoedd Caerdydd.

Mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod mynd i’r afael â defnyddio e-gerbydau’n anghyfreithlon yn gofyn am ymagwedd gydweithredol, sy’n cynnwys plismona, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i sicrhau bod cymunedau’n cael eu diogelu a bod deddfwriaeth effeithiol yn ategu gweithgarwch gorfodi.

Bydd y Comisiynydd yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid, i sicrhau camau gorfodi effeithiol, addysg barhaus ac ymwybyddiaeth o’r defnydd anghyfreithlon o e-feiciau ac e-sgwteri, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r camau cadarnhaol sydd ar waith i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Os ydych chi’n poeni am y defnydd peryglus neu wrthgymdeithasol o e-gerbydau yn eich cymuned chi, rhowch wybod i Heddlu De Cymru. Mae pob adroddiad yn helpu swyddogion i greu darlun cliriach o broblemau lleol, meithrin deallusrwydd a chymryd camau wedi’u targedu yn erbyn y rheini sy’n achosi niwed ac aflonyddwch.

Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau nad ydynt yn argyfwng drwy ffonio 101 neu ar-lein drwy wefan Heddlu De Cymru.

Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o Comisiynydd Heddlu & Troseddu De Cymru, gyda swyddogion Heddlu De Cymru a staff o Cyngor Rhondda Cynon Taf

Bennod newydd yn dechrau wrth i Orsaf Heddlu Pontypridd gael eu drosglwyddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf

Ateb eich cwestiynau. Podcast newydd. Llun o Comisiynydd a prif gwnstabl.

Y Comisiynydd yn lansio podlediad i roi sylw i’r cwestiynau a’r pryderon sydd gan drigolion

Llun o Pencadlys Heddlu De Cymru / Picture of South Wales Police Headquarters

Y Prif Gwnstabl Vaughan yn ymddeol ac yn cael ei ailbenodi – Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu