Ymchwil Newydd yn Cadarnhau Llwyddiant Timau Atal Trais mewn Adrannau Achosion Brys

Nyrs Atal Trais yn sefyll y tu allan i'r Adran Damweiniau a Brys

Ymchwil Newydd yn Cadarnhau Llwyddiant Timau Atal Trais mewn Adrannau Achosion Brys

Mae gwaith ymchwil newydd a wnaed gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Efrog a Phrifysgol Abertawe – a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) – wedi gwerthuso effeithiolrwydd Timau Atal Trais Cymru. Mae’r canfyddiadau yn dangos bod rhaglenni atal trais arbenigol sy’n gweithredu o fewn adrannau achosion brys mewn ysbytai yn lleihau niwed yn sylweddol, yn lleihau nifer y bobl sy’n mynd i adrannau achosion brys yn fynych, yn lleihau costau i’r GIG, ac yn gwella gofal cleifion.

Sefydlwyd Timau Atal Trais De Cymru yn wreiddiol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn 2019 ac yn Ysbyty Treforys, Abertawe yn 2023 drwy gyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a chymorth gan yr Uned Atal a Lleihau Trais. Mae Timau Atal Trais yn cynnwys nyrsys arbenigol a gweithiwr achos cymunedol sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn adrannau achosion brys.

Mae nyrsys y Timau Atal Trais yn nodi cleifion sydd yno oherwydd trais, yn archwilio eu hamgylchiadau, yn rhoi cymorth ar unwaith, ac yn cyfeirio unigolion at wasanaethau iechyd, diogelu a gofal cymdeithasol. Mae’r dull iechyd y cyhoedd integredig hwn yn rhoi prosesau atal trais a arweinir gan nyrsys wrth wraidd gofal brys.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:

“Rwy’n hynod falch bod cyllid o’m swyddfa wedi helpu i ddatblygu a thyfu Timau Atal Trais mewn Adrannau Achosion Brys.”

“Mae’r llwyddiant a ddangosir yn y gwerthusiad hwn hefyd o ganlyniad i ymrwymiad ac angerdd nyrsys, gweithwyr achos, a’r nifer o bartneriaid statudol a thrydydd sector sy’n sefyll ochr yn ochr â nhw, a’r byrddau iechyd sydd wedi mabwysiadu’r dull yn frwd.”

“Mae’r Timau Atal Trais hyn yn enghraifft o waith partneriaeth ar ei orau.”

Mae gwaith atal troseddau a lleihau trais yn ymwneud yn uniongyrchol â’r amcanion a nodwyd ym Mlaenoriaeth 2 o Gynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder y Comisiynydd. Mae’r Timau Atal Trais yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni’r amcanion hyn.

Canfyddiadau Allweddol:

Mae’r ymchwil yn y gwerthusiad yn dangos tystiolaeth bod rhaglenni atal trais mewn Adrannau Achosion Brys yn gwneud y canlynol:

  • Lleihau nifer y bobl sy’n mynd i adrannau achosion brys yn fynych heb gynllunio, yn benodol ymhlith menywod, merched a chleifion dan 31 oed.
  • Nodi gwendidau a risgiau diogelu a fyddai’n debygol o barhau i fod yn gudd, gan gynnwys camfanteisio’n droseddol ac yn rhywiol, caethwasiaeth fodern a rheolaeth drwy orfodaeth.
  • Lleihau pwysau ar adrannau achosion brys, gan atal argyfyngau mynych drwy ymyrryd yn gynnar.
  • Darparu model ymarferol y mae modd ei ehangu gyda chanlyniadau sylweddol i wasanaethau’r GIG ledled y DU.

 

Yng nghasgliad y gwerthusiad, mae’r ymchwil yn argymell y dylid cyflwyno Timau Atal Trais yn genedlaethol oherwydd eu heffaith ar leihau trais, lleihau costau’r GIG a gwella gofal cleifion.

Dywedodd yr Athro Simon Moore, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Trais ym Mhrifysgol Caerdydd:

Rwy wedi dod i’r casgliad bod hwn yn ddefnydd o adnoddau gwerth chweil, o ystyried y ffaith bod llywodraeth y DU yn awyddus i leihau trais, a hynny yn erbyn menywod a merched yn benodol.

Felly, fy nghasgliad yw y dylid gweithredu’r rhain ar raddfa eang.

A quasi-experimental effectiveness evaluation of a nurse-led Hospital Violence Intervention Programme in the United Kingdom using linked routine health and administrative data – ScienceDirect

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
The Cyber Helpline - ENG

Hyfforddiant Seiberstelcio ac Achosion o Gam-Drin a Hwylusir gan Dechnoleg

Llun o Comisiynydd yn dweud 'Mae pawb yn haeddu teimlo'n ddiogel lle maen nhw'n byw, gweithio ac astudio'

Y Comisiynydd yn sicrhau cyllid newydd i wella diogelwch a chefnogaeth mewn cymunedau.

Cynllun Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar y Cyd De Cymru

Lansio Cynllun Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar y Cyd De Cymru