Y Prif Gwnstabl Vaughan yn ymddeol ac yn cael ei ailbenodi – Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cefnogi’r penderfyniad i’r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan barhau i arwain Heddlu De Cymru tan 2028 drwy’r Cynllun Ymddeol ac Ailymuno a gydnabyddir yn genedlaethol.

Yn dilyn y broses lywodraethu a phenderfynu briodol, mae’r Comisiynydd yn fodlon bod cadw profiad, arbenigedd ac arweinyddiaeth y Prif Gwnstabl Vaughan er budd gorau Heddlu De Cymru a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae’r penderfyniad yn rhoi sefydlogrwydd a pharhad ar adeg pan fydd plismona yn parhau i wynebu heriau a diwygio sylweddol ledled Cymru a Lloegr.

Mae’r Cynllun Ymddeol ac Ailymuno yn drefniant sefydledig a ddefnyddir gan heddluoedd ledled y wlad, gan gynnwys ar lefel prif swyddogion. Mae’n cael ei gydnabod a’i gefnogi mewn fframweithiau plismona cenedlaethol ac mae’n galluogi lluoedd i gadw sgiliau arweinyddiaeth, gwybodaeth a phrofiad gweithredol hollbwysig a fyddai fel arall yn cael eu colli yn sgîl ymddeol. Yn bwysig, mae’n galluogi parhad mewn arweinyddiaeth heb greu unrhyw gost ychwanegol i’r trethdalwr.

O dan arweinyddiaeth y Prif Gwnstabl Vaughan, mae Heddlu De Cymru wedi parhau i berfformio’n gryf, ac mae wedi cael asesiadau cadarnhaol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi mewn meysydd sy’n cynnwys ymchwilio i droseddau difrifol a threisgar, amddiffyn a diogelu plant, diwylliant sefydliadol, lles y gweithlu, safonau fetio, diogelwch gwybodaeth a threfniadau gwrth-lygredd. Mae’r llu hefyd wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol drwy ennill y Safon Cydraddoldeb Genedlaethol.

Fel rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i dryloywder a llywodraethu cadarn, mae’r penderfyniad wedi’i adrodd i Banel Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae hyn wedi galluogi’r Panel i ystyried rhesymeg y penderfyniad ac arfer ei swyddogaethau craffu a goruchwylio ar ran y cyhoedd. Mae adroddiad y Panel yn ‘argymell yn unfrydol’ fod y Comisiynydd yn ailbenodi Mr Jeremy Vaughan yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru o dan y Cynllun Ymddeol ac Ailymuno.

Mae’r Comisiynydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod yr holl benderfyniadau sy’n ymwneud â llywodraethiant Heddlu De Cymru yn cael eu gwneud yn gyfreithlon, yn dryloyw ac er budd gorau cymunedau de Cymru. Drwy barhau ag arweinyddiaeth y Prif Gwnstabl Vaughan, bydd yn helpu i sicrhau bod y llu yn dal i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol, hygyrch a dibynadwy i’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.

 

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Front Cover of Booklet, with image of 3 women in a heart shape made using hands

Cam-drin Domestig o Ofn i Ryddid: Canllaw i Fenywod ar draws Cymru

Picture of Police & Crime Commissioner, Emma Wools, with local Councillors, MP and Local Inspector in Whitchurch

Ymdrechion mewn partneriaeth yn dwyn ffrwyth wrth ymosod ar e-gerbydau anghyfreithlon yng Ngogledd Caerdydd

Yn y llun: Rheolwyr Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd De Cymru yn derbyn gwobr gyda Sherry Ralph, Prif Weithredwr y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ar y dde) a'r Fonesig Anne Owers, Cadeirydd y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ar y chwith).

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ennill gwobr genedlaethol am y cynllun ymweld â dalfeydd