Mae’r Comisiynydd yn falch o gyhoeddi ei bod wedi sicrhau cyllid sylweddol drwy Gronfa Deddf Eiddo’r Heddlu er mwyn gwella’r cynnydd rydym yn ei wneud er mwyn cadw ein cymunedau’n ddiogel.
Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi dull newydd sy’n seiliedig ar le, gan ddwyn plismona, partneriaid a buddsoddiad pwrpasol ynghyd yn y cymunedau lle mae lefelau troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwed ar eu huchaf.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:
“Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel lle maen nhw’n byw, gweithio ac astudio. Yn aml mae preswylwyr yn dweud wrtha i pa mor bwysig yw teimlo’n ddiogel, teimlo’n hyderus wrth roi gwybod am bryderon, ac yn dawel eu meddwl bod sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi eu teuluoedd.
Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau a gyflawnwyd hyd yma a buddsoddi’n uniongyrchol yn ein cymunedau, gan wella diogelwch a chefnogaeth lle mae ei angen fwyaf. Rydym yn gwybod mai nifer bach o ardaloedd sy’n cyfrif am gyfran fawr o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dyna pam mae’r dull penodol hwn yn gweithio.
Mae’n bwysig myfyrio ar yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a sut y gallwn ni adeiladu ar hynny. Mae menter ddiweddar ‘Gaeaf o Weithredu’ yn enghraifft dda, lle bu partneriaid yn mynd ati i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â throseddau yn ystod un o adegau prysuraf y flwyddyn.
Arweiniodd eu hymdrechion at gyflawni canlyniadau mesuradwy, go iawn.
Ar draws 11 o ganol trefi rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr, gwnaethon ni gyflawni’r canlynol:
- Darparwyd 2,800 awr ychwanegol o weithgarwch plismona a phartneriaeth.
- Defnyddiwyd gwerth 52 awr o dechnoleg adnabod wynebau byw.
Ac mae’r canlyniadau’n dweud y cyfan:
- Arestiwyd 866 o unigolion
- Gwelwyd gostyngiad o 30% yn nifer yr achosion o ddwyn o siopau
- Cafwyd gostyngiad o 12% mewn troseddau treisgar
- Gwelwyd gostyngiad o 14% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cafodd 50% yn llai o feiciau eu dwyn
- Atafaelwyd 37 o feiciau trydan anghyfreithlon.
Dyma’n union pam y mae wedi bod yn bwysig i mi fy mod yn sicrhau buddsoddiad ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau y bydd y gwaith hwn yn parhau. Pan fo menter yn cyflawni canlyniadau gweladwy go iawn, mae’n hollbwysig ein bod yn adeiladu ar lwyddiant o’r fath.
Gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’n cymunedau ein bod yn gweithredu ar y blaenoriaethau rydych chi wedi dweud sydd o’r pwys mwyaf i chi, fel y nodir yn fy Nghynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder, a bod y gwaith hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol ag ymrwymiad Heddlu De Cymru i atal ac ymyrryd yn gynnar yn unol â’u Cynllun Gweithredu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio i fireinio ein dull gweithredu, gan weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei dargedu lle y bydd yn cael yr effaith fwyaf.”
Ym mis Mai, bydd y Comisiynydd yn nodi’n glir sut y bydd Cronfa Partneriaeth Lleoedd Mwy Diogel yn cael ei defnyddio i gefnogi’r gwaith o greu cymunedau mwy diogel ledled De Cymru.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Ymchwil Newydd yn Cadarnhau Llwyddiant Timau Atal Trais mewn Adrannau Achosion Brys
Hyfforddiant Seiberstelcio ac Achosion o Gam-Drin a Hwylusir gan Dechnoleg