Y Comisiynydd yn lansio podlediad i roi sylw i’r cwestiynau a’r pryderon sydd gan drigolion

Ateb eich cwestiynau. Podcast newydd. Llun o Comisiynydd a prif gwnstabl.

Mae gwrando ar eich profiadau, eich pryderon a’ch adborth yn rhan allweddol o rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Yr un mor bwysig, mae’n hanfodol bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym yn ein helpu i lywio’r ffordd mae’r Comisiynydd yn dal Heddlu De Cymru i gyfrif ac yn ysgogi gwelliannau o ran gwasanaethau plismona.

Er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gymunedau am sut mae eu barn yn dylanwadu ar flaenoriaethau plismona, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools, wedi lansio podlediad newydd, sef Ateb Eich Cwestiynau: Cadw De Cymru’n Ddiogel. 

Mae’r podlediad yn rhoi cyfle i’r Comisiynydd ofyn cwestiynau a gyflwynwyd gan y cyhoedd i Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, gan ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i gymunedau lleol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools:

“Pan fydda i’n treulio amser allan yn ein cymunedau, mewn digwyddiadau a chyfarfodydd, yn aml bydda i’n clywed trigolion yn codi’r un pryderon ac yn gofyn yr un cwestiynau.

Bwriad y podlediad hwn yw sicrhau bod y lleisiau hynny’n cael eu clywed, a rhoi atebion clir i’r cwestiynau a ofynnir.

Drwy wrando ar Ateb Eich Cwestiynau: Cadw De Cymru’n Ddiogel, byddwch yn clywed am sut mae’r adborth rydych chi’n ei rannu yn helpu i lywio’r ffordd rwy’n dal Heddlu De Cymru i gyfrif. Cewch glywed y Prif Gwnstabl ei hun yn trafod yr heriau sy’n wynebu plismona, y cynnydd sy’n cael ei wneud, a’r gwaith sy’n parhau i gadw ein cymunedau’n ddiogel hefyd.

Mae’r bennod gyntaf yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n broblem mae trigolion yn mynegi pryderon amdani yn gyson. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolion, gan effeithio ar ba mor ddiogel maen nhw’n teimlo yn eu cymdogaethau a faint o hyder sydd ganddynt wrth leisio eu pryderon.

Yn y bennod hon, rydyn ni’n archwilio sut mae Heddlu De Cymru yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chymunedau ar ôl cael gwybod am ddigwyddiad, ynghyd â’r gwaith i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy atal a gorfodi.”

Gwrandewch ar y podlediad yma –

Spotify 

Apple Podcast

Amazon Music/Audible

Spreaker 

Podlediad ar gael ar Spreaker, Apple Podcasts, Amazon Music/Audible and Spotify.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
PCC with Foundation 4 Sport Cardiff staff members

Creu cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc ledled Caerdydd

Llun o Comisiynydd gyda swyddogion heddlu ffyrdd

Cadw Cymunedau’n Ddiogel: Cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda’r Uned Plismona Ffyrdd

Emma Wools at Cardiff City Football Club Community Foundation

Buddsoddi £125,000 i Ehangu’r Rhaglen “Premier League Kicks” i Gefnogi Pobl Ifanc Ledled De Cymru