Mae Plismona yng Nghymru a phartneriaid Cyfiawnder Troseddol wedi croesawu cyhoeddi canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys i blant.
Ym mis Mai 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a oedd yn nodi prif ddyheadau ac egwyddorion arweiniol Cymru ar gyfer plant sydd yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ddod yn rhan ohoni. Un o’i feysydd ffocws allweddol oedd y ffrwd waith Dargyfeirio cyn Achosion Llys. Nod y ffrwd waith hon oedd sicrhau bod arferion da sydd eisoes ar waith yn cael eu cynnal a bod y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru yn gyson. Roedd hefyd yn nodi cyfleoedd i ddatblygu ymyriadau ar gyfer dargyfeirio a datrysiadau y tu allan i’r llys er mwyn diwallu anghenion gwahanol blant a mynd i’r afael ag ymddygiad troseddol ar draws ystod o droseddau yn effeithiol.
Er mwyn cyflawni amcanion y ffrwd waith, sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu’r gwaith o ddarparu egwyddorion a chanllawiau Cymru Gyfan cyn achosion llys ynghyd â chyfres o argymhellion ar gyfer datblygu yn y dyfodol.
Mae’r gwaith hwn, a arweinir gan Sian Rees, Cyfarwyddwr Cyfiawnder Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, ac Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent, mewn cydweithrediad â Phlismona yng Nghymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru, yn nodi cam sylweddol ymlaen wrth gefnogi dull cyfiawnder ieuenctid sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf.
Mae’r canllawiau yn nodi egwyddorion a disgwyliadau clir ar gyfer asiantaethau ledled Cymru, gan atgyfnerthu ymrwymiad ar y cyd i atal plant rhag cael eu tynnu i mewn i drosedd yn ddiangen a sicrhau bod ymatebion i ymddygiad troseddol yn gymesur, yn amserol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol hirdymor.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfiawnder Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Sian Rees:
“Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu cred gyffredin y dylid trin plant yn deg, gan ddangos dealltwriaeth a rhoi cefnogaeth iddynt pan fyddant yn dod i gysylltiad â’r system gyfiawnder. Trwy annog dargyfeirio a datrysiadau y tu allan i’r llys, hyrwyddir ymatebion sy’n cydnabod yr amgylchiadau unigol y tu ôl i ymddygiad plentyn a gellir cynnig cymorth ar yr adeg gywir. Cafodd y canllawiau eu datblygu drwy gydweithio agos ledled Cymru, ac maent yn cefnogi dull mwy cydgysylltiedig a chyson sy’n gadael lle i weithwyr proffesiynol gael sgyrsiau, meithrin perthnasoedd a gwneud penderfyniadau sy’n helpu plant i symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol.”
Bydd y canllawiau yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad, yn lleihau cyfraddau aildroseddu ac yn hyrwyddo cymunedau mwy diogel. Maent hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymyrraeth gynnar, gweithio mewn partneriaeth a chyfranogiad ystyrlon gan blant a’u teuluoedd mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Bydd partneriaid Cyfiawnder Troseddol yn parhau i weithio’n agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y canllawiau yn cael eu gweithredu’n effeithiol a’u bod yn cael effaith ystyrlon ar blant a chymunedau.
Egwyddorion a chanllawiau ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys i blant [HTML] | LLYW.CYMRU
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Yn Eich Cymuned: O batrolau i bartneriaethau ar draws Caerdydd
Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn Dathlu 10 Mlynedd o Gefnogi Dioddefwyr