Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am ansawdd uchel ei chynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd.
O dan y cynllun hwn, mae gwirfoddolwyr hyfforddedig o’r gymuned leol (Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd) yn cynnal ymweliadau dirybudd â dalfeydd yr heddlu yn rheolaidd dan arweiniad Rheolwyr y Cynllun er mwyn gwirio lles y bobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa a sicrhau y caiff eu hawliau eu diogelu a’u bod yn cael eu trin ag urddas. Rhennir eu canfyddiadau â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Meiri, a’r sawl sydd mewn rolau cyfatebol ac yn dal Prif Gwnstabliaid i gyfrif ledled y DU.
Mae’r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ICVA) – y sefydliad cenedlaethol o aelodau sy’n cefnogi, yn arwain ac yn cynrychioli’r cynlluniau hyn – wedi datblygu fframwaith sicrwydd ansawdd i asesu pa mor dda mae’r cynlluniau’n cydymffurfio â’r cod ymarfer sy’n llywodraethu ymweliadau â dalfeydd.
Hon yw’r drydedd flwyddyn o asesu’r cynlluniau o dan y fframwaith, ac iddynt lwyddo i gael gwobrau sicrwydd ansawdd i gydnabod gwerth eu gwaith. Cyflwynodd ICVA wobr sicrwydd ansawdd arian i’r cynllun yn ne Cymru ar 8 Gorffennaf mewn seremoni yn Llundain.
Gan groesawu’r wobr, dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru:
“Mae’n bleser gennyf dderbyn y wobr arian hon, sy’n adlewyrchu cryfder a llwyddiant y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn ne Cymru. Ni fyddai’r cyflawniad hwn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr, sy’n chwarae rhan hanfodol yn hyrwyddo tryloywder, urddas a lles yn nalfeydd Heddlu De Cymru. Hoffwn ddiolch i ICVA am gefnogi’r cynllun hefyd, ac am eu hymrwymiad parhaus wrth helpu i sicrhau bod cynlluniau ymwelwyr â dalfeydd yn parhau i gynnal y safonau uchaf drwy’r fframwaith sicrwydd. Mae’r wobr hon yn dangos gwaith caled a phroffesiynoldeb pawb sy’n rhan o’r cynllun, ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.”
Dywedodd y Fonesig Anne Owers, Cadeirydd ICVA: “Unwaith eto, mae’r gwobrau hyn yn dangos gwerth a phwysigrwydd ymwelwyr annibynnol â dalfeydd, ac mae hyd yn oed mwy o gynlluniau wedi cael y dyfarniad ‘platinwm’ uchaf. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu’r gwaith hanfodol y mae ICVA yn ei wneud, wrth ddarparu cymorth a hyfforddiant i wirfoddolwyr a chynlluniau ar draws y wlad.”
Dywedodd Sherry Ralph, Prif Weithredwr ICVA: “Mae’r Fframwaith Sicrwydd Ansawdd yn golygu gwaith ychwanegol sylweddol i sicrhau bod cynlluniau ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, bod gwelliannau’n cael eu gwneud yn ôl yr angen, a bod arfer ardderchog yn cael ei rannu. Eleni, rydym hefyd wedi cryfhau ein dull gweithredu drwy ganolbwyntio fwy ar leisiau’r gwirfoddolwyr i sicrhau bod profiadau a safbwyntiau Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn cael eu hymgorffori mewn cynlluniau a’u hadlewyrchu mewn asesiadau, a hynny ar lefelau uwch y fframwaith yn benodol. Hoffwn longyfarch y cynlluniau ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni a diolch iddynt am eu hymroddiad a’u hymrwymiad parhaus.”
I ddysgu mwy am y cynllun a sut y gallwch chi gymryd rhan, gweler y dudalen yma.
Cliciwch ymaY Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru i roi tystiolaeth ar Ddiwygio’r Heddlu ym Mhwyllgor Materion Cymreig San Steffan.
Wythnos Plismona Yn Y Gymdogaeth – Y tu ôl i bob stryd fwy diogel mae tîm plismona cymdogaeth ymroddedig.