Rydym yn Derbyn Ceisiadau – Cronfa Partneriaeth Lleoedd Mwy Diogel

Cronfa Partneriaeth Lleoedd Mwy Diogel

* RYDYM YN DERBYN CEISIADAU* 

 Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools, wedi llwyddo i sicrhau £1 miliwn ar gyfer y Gronfa Partneriaeth Lleoedd Mwy Diogel newydd, gan gefnogi gweithgarwch partneriaeth i atal troseddu a lleihau trais rhwng 2026 a 2028.  

Daeth Cronfa Hotspot Action1 y Swyddfa Gartref i ben ym mis Mawrth 2026 ac, o ganlyniad i hynny, mae’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar le a methodoleg Ymgyrch Sentinel wedi’u trawsnewid i fusnes fel arfer o fewn plismona cymdogaeth, wedi’i alinio â’r Warant Plismona Cymdogaeth a Chynllun Cyflawni’r Prif Gwnstabl. Ochr yn ochr â’r trawsnewidiad hwn o ran plismona gweithredol, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi sicrhau cyllid o £1 filiwn i gefnogi gweithgarwch partneriaeth yn ystod 2026-28 sy’n ceisio atal troseddu a lleihau trais mewn ardaloedd ffocws, a nodwyd drwy ddadansoddi data. Bydd Cronfa Partneriaeth Lleoedd Mwy Diogel yn gwella ac yn cyflymu gweithgarwch mewn lleoliadau a nodwyd drwy alluogi sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat a sefydliadau anllywodraethol/cymunedol/elusennol i gyflawni ymyriadau wedi’u targedu.   

Nod y cyllid hwn yw gwella a chyflymu gwaith mewn 32 o ardaloedd penodol sydd â risg uwch o niwed, gan gefnogi’r hyn sy’n bwysig i bobl De Cymru drwy fynd i’r afael ag un neu fwy o’r canlynol: 

  • Trais 
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol 
  • Troseddau manwerthu 
  • Diogelwch menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, yn enwedig yn ystod y nos 
  • Troseddau cyllyll 
  • Camfanteisio’n droseddol ar blant 

 Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:  

“Nod Cronfa Partneriaeth Lleoedd Mwy Diogel yw ariannu prosiectau a gwasanaethau a fydd yn helpu i adeiladu De Cymru sy’n fwy diogel, teg a chynhwysol.”  

Rwyf eisiau i bartneriaid fod yn feiddgar a chreadigol wrth ddatblygu cynigion sy’n adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i bobl De Cymru a’r hyn a fydd yn cyflawni newid ystyrlon yn y cymunedau sy’n wynebu’r lefelau uchaf o drais a throseddu.” 

Pwy all wneud cais am gyllid? 

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn croesawu ceisiadau a gaiff eu cydgysylltu a’u cyflwyno gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol i gefnogi dull gweithredu cysylltiedig sy’n cyd-fynd ag anghenion a blaenoriaethau lleol. Gall y gweithgareddau sydd wedi’u cynnwys yn y ddarpariaeth arfaethedig gynrychioli mewnbynnau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a/neu sefydliadau anllywodraethol. Caiff ceisiadau sy’n cynnwys sefydliadau cymunedol, sefydliadau arbenigol, sefydliadau gan a dros a sefydliadau llawr gwlad, lle y bo’n briodol, eu hystyried yn ffafriol.  

I weld manylion llawn y broses cyflwyno caisa’r meini prawf cymhwyseddewch i wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Cronfa Bartneriaeth Lleoedd Mwy Diogel

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o Comisiynydd Heddlu & Troseddu De Cymru, gyda swyddogion Heddlu De Cymru a staff o Cyngor Rhondda Cynon Taf

Bennod newydd yn dechrau wrth i Orsaf Heddlu Pontypridd gael eu drosglwyddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf

Ateb eich cwestiynau. Podcast newydd. Llun o Comisiynydd a prif gwnstabl.

Y Comisiynydd yn lansio podlediad i roi sylw i’r cwestiynau a’r pryderon sydd gan drigolion

Llun o Pencadlys Heddlu De Cymru / Picture of South Wales Police Headquarters

Y Prif Gwnstabl Vaughan yn ymddeol ac yn cael ei ailbenodi – Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu