Prif Arolygydd Prawf yn ymweld â De Cymru i dynnu sylw at Ymdrechion Cydweithredol!

Llun o'r Prif Arolygydd Prawf, aelodau o Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a'r Hyb Oedolion Ifanc yn eu swyddfeydd yn ystod yr ymweliad.

Yr wythnos diwethaf, ymwelodd Prif Arolygydd Prawf ei Fawrhydi, Martin Jones â De Cymru i gwrdd â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools. Nod yr ymweliad oedd tynnu sylw at y trefniadau cydweithredol arloesol ymysg nifer o asiantaethau yn Ne Cymru.

Cychwynnodd y diwrnod gyda’r Prif Gwnstabl yn cwrdd â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Dyfed Powys a De Cymru, ynghyd â Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent. Yn dilyn y cyfarfod rhagarweiniol hwn, teithiodd y Prif Arolygydd i Ferthyr er mwyn cwrdd â thimau Rheoli Troseddwyr Difrifol a Pheryglus Integredig Cymru (WISDOM) a DRIVE. Rhannodd y timau hyn wybodaeth am eu dulliau amlasiantaethol o leihau aildroseddu ac ymyrryd yn achos cyflawnwyr cam-drin domestig.

Nesaf, ymwelodd y Prif Arolygydd â’r Hyb Oedolion Ifanc yng Nghaerdydd, sy’n darparu gwasanaethau i unigolion ethnig leiafrifol sydd ar brawf, gan ganolbwyntio ar oedolion ifanc 18-24 oed a menywod. Yn dilyn hynny, gwnaeth gwrdd ag aelodau o Dîm Glasbrint Cymru, Ymddiriedolaeth Nelson a Media Academy Cymru. Mae’r sefydliadau hyn, ymysg gwasanaethau eraill, yn cyflawni Gwasanaeth One Wales ar gyfer Menywod a Phobl Ifanc, sy’n mynd i’r afael ag anghenion menywod ac oedolion ifanc sydd â hunaniaethau croestoriadol ac ymyleiddiedig, fel oedran, rhywedd ac ethnigrwydd. Mae’r ffactorau hyn yn aml yn gwaethygu’r anfanteision y mae menywod a rhai oedolion ifanc yn eu hwynebu yn y system cyfiawnder.

Ar y cyfan, roedd yr ymweliad yn gyfle ardderchog i’r gwasanaethau a oedd yn cymryd rhan arddangos y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud ar draws nifer o asiantaethau a gyda phartneriaid allweddol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools:

“Roedd yn arbennig cael y cyfle i arddangos y gwaith anhygoel a thrawsnewidiol rydym yn ei gyflawni gyda’n hasiantaethau partner i’r Prif Arolygydd Prawf.

“Rydym yn wirioneddol falch o’n gwaith yn Ne Cymru, gan sicrhau bod unigolion sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol yn gallu cael yr help a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud newid cadarnhaol.

Rwy’n benderfynol o barhau â’r dull cydweithredol cadarn ac effeithiol rydym yn ei ddarparu ledled y rhanbarth, fel y gallwn, gyda’n gilydd, gyflawni’r De Cymru ddiogel, gyfiawn, a chynhwysol y mae pob un ohonom am ei gweld.”

Dywedodd Prif Arolygydd Prawf Ei Fawrhydi, Martin Jones:

Cafodd y gwaith partneriaeth sy’n digwydd yng Nghymru a’r prosiectau anhygoel a arddangoswyd gryn argraff arnaf. Roedd yn dangos y gwahaniaeth y mae’r gwasanaeth prawf yn gallu ei wneud o hyd, er gwaethaf yr heriau, drwy feithrin y cydberthnasau cywir ac arweinyddiaeth leol dda.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r sgyrsiau.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Go Awards Logo

Enwebiad am Wobr!

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn ein #SgwrsLleisiauIfanc

Aelodau o'r tîm sy'n derbyn gwobr Go Awards Wales.

Llwyddiant Gwobr Menter Gaffael Gydweithredol yng Ngwobrau Go Wales