Ddydd Mawrth 25 Chwefror, croesawom dros 25 o bobl ifanc o bob rhan o dde Cymru i’n digwyddiad Sgwrs Lleisiau Ifanc ym Mhencadlys yr Heddlu.
Nod Lleisiau Ifanc yw rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu hadborth, profiadau a syniadau gydag uwch arweinwyr ynghylch materion yn ymwneud â phlismona, trosedd a diogelwch, tra hefyd yn cael cyfle i edrych y tu ôl i’r llenni ar wahanol adrannau plismona.
Cyfarfu pobl ifanc â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jo Maal a Kath O‘Kane o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a rhannu eu hadborth gonest am y materion sy‘n effeithio arnyn nhw a‘u cyfoedion lle maen nhw‘n byw, gweithio neu‘n astudio.
Fel rhan o‘r digwyddiad, cafodd pobl ifanc gyfle hefyd i gwrdd â rhai o geffylau‘r Heddlu, derbyn gwrthdystiadau gan swyddogion sy‘n gyfrifol am adnabod wynebau a phlismona ffyrdd ac ymweld â Chanolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools: “Rwy‘n ddiolchgar iawn i‘r holl bobl ifanc a fynychodd ein digwyddiad Lleisiau Ifanc, ac am gymryd yr amser i rannu eu hadborth gonest gyda ni. Mae rhoi cyfleoedd i bobl ifanc roi sylwadau ar y gwasanaethau sy‘n effeithio arnynt a’u herio, yn allweddol i‘m helpu i a Heddlu De Cymru i wella ar y cyd ar y gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc.
Rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant lle mae barn a chyfraniadau pobl ifanc yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u gweithredu. Mae clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc yn hanfodol bwysig wrth wella fy nealltwriaeth o’r materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a’u profi yn eu hardaloedd lleol a bydd yn hanfodol i’m helpu i ddatblygu’r blaenoriaethau a’r atebion sy’n canolbwyntio ar blant ar gyfer fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder fy Mhobl Ifanc yn ystod y misoedd nesaf.”
Mae mwy o wybodaeth am Sgwrs Llais Ifanc ar gael yma
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Llwyddiant Gwobr Menter Gaffael Gydweithredol yng Ngwobrau Go Wales

LGBTQ + Hanes Mis Siop Wybodaeth Un Stop
