Ynghylch Sgwrs Lleisiau Ifanc
Drwy sefydlu’r fforwm hwn, hoffem annog a grymuso pobl ifanc i wneud y canlynol:
- Cwestiynu a gwneud sylwadau ar faterion yn ymwneud â phlismona a diogelwch cymunedol mewn ffordd adeiladol.
- Cael eu lleisiau wedi’u clywed a mynegi eu barn.
- Siarad yn uniongyrchol â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’i dîm, yr heddlu a sefydliadau eraill.
- Rhannu eu gwybodaeth, ymwybyddiaeth a’u profiadau personol yn ymwneud â materion cymunedol.
Mae ein Sgwrs Lleisiau Ifanc yn ddull haenog, sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc ymgysylltu â ni a chymryd rhan mewn sgyrsiau lleol a rhanbarthol:
- Sgyrsiau Lleisiau Ifanc Lleol – Drwy gydol y flwyddyn, mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn defnyddio rhwydweithiau yn eu cymunedau, megis grwpiau ieuenctid/fforymau a sefydliadau i hwyluso sgyrsiau anffurfiol rheolaidd gyda phobl ifanc. Bydd y sgyrsiau lleol hyn yn rhoi cyfle i archwilio materion y mae pobl ifanc eisiau eu trafod gyda ni, yn ogystal â phynciau yr hoffech ddeall safbwynt person ifanc arnynt.
- Fforwm Lleisiau Ifanc –Rydym yn crynhoi’r adborth a’r syniadau a rennir gyda ni gan bobl ifanc o sgyrsiau lleol ac yn bwydo hyn yn ein fforwm Lleisiau Ifanc. Mae hyn yn ein galluogi i adolygu’r materion a godwyd ar y cyd a deall y tebygrwydd a’r gwahaniaethau mewn pryderon a barn pobl ifanc ledled ardal ein heddlu. Gwahoddir grŵp bach o bobl ifanc i fynychu’r fforwm a thrafod canfyddiadau eu sgyrsiau lleol gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac uwch arweinwyr.
- Adborth –Yn dilyn ymlaen o’n Fforwm Lleisiau Ifanc Rhanbarthol, gwahoddir pobl ifanc i fynychu ‘sesiwn adborth’ i glywed diweddariadau gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac arweinwyr perthnasol o fewn y sefydliad ar sut mae’r materion a godwyd wedi cael eu hystyried a’u datblygu. Rydym hefyd yn crynhoi’r diweddariadau hyn mewn dogfen ysgrifenedig, fel y gall Swyddogion a Swyddogion Cymorth Cymunedol rannu’n ehangach â’r grwpiau y maent wedi ymgysylltu â nhw.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch e-bost atom : engagement@south-wales.police.uk
Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion