Meithrin Cymunedau Mwy Diogel Drwy Atal a Phartneriaeth

Yn ddiweddar, gwnaeth cynrychiolwyr o Uned Atal a Lleihau Trais De Cymru, sy’n rhan o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ymuno â Chynhadledd y Rhaglen Lleihau Trais Difrifol yn Birmingham, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gorllewin Canolbarth Lloegr ac a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref.

Daeth y gynhadledd â chynrychiolwyr o Bartneriaethau Lleihau Trais Difrifol ledled y DU ynghyd i rannu dysgu, atgyfnerthu partneriaethau a thrafod dyfodol atal trais yng Nghymru a Lloegr.

Atgyfnerthodd y gynhadledd neges allweddol sydd wrth wraidd gweledigaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ar gyfer cymunedau mwy diogel: atal niwed cyn iddo ddigwydd. Drwy gydweithio â byd plismona, partneriaid cyfiawnder troseddol, byd addysg, awdurdodau lleol, iechyd a’r trydydd sector, mae de Cymru yn parhau i ymdrechu i gyflawni ymagwedd iechyd cyhoeddus at leihau trais drwy weithio ar y cyd i nodi risgiau’n gynnar, cefnogi pobl ifanc a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol trais a niwed.

Gwnaeth y siaradwyr dynnu sylw at effaith gadarnhaol dulliau sy’n canolbwyntio ar atal, a’r buddsoddiadau mewn ymyrraeth gynnar a dargyfeirio sydd wedi cyfrannu at leihau trais difrifol ar draws cymunedau. Gwnaeth y Gweinidog Plismona ganmol rôl hanfodol Unedau Lleihau Trais a phartneriaethau ehangach wrth fuddsoddi mewn creu cyfleoedd, meithrin gwydnwch a helpu i atal niwed yn y dyfodol.

Bydd y dysgu a’r perthnasoedd a ddatblygwyd drwy’r gynhadledd yn helpu i lywio gwaith yn y dyfodol ledled de Cymru, gan sicrhau bod cymunedau’n parhau i elwa o’r dystiolaeth, yr arloesi a’r arferion gorau diweddaraf. Mae hefyd yn adeiladu ar ymrwymiad hirsefydlog y Comisiynydd i gefnogi dulliau dan arweiniad partneriaeth sy’n helpu i wneud ein cymunedau yn fwy diogel.

Dywedodd Gweinidog dros Gyfiawnder a Phlismona, Sarah Jones:

“Mae atal yn ymwneud â mwy na lleihau troseddu. Mae’n golygu creu cyfleoedd, meithrin gwydnwch a helpu cymunedau i ffynnu”.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
PCC with Foundation 4 Sport Cardiff staff members

Creu cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc ledled Caerdydd

Llun o Comisiynydd gyda swyddogion heddlu ffyrdd

Cadw Cymunedau’n Ddiogel: Cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda’r Uned Plismona Ffyrdd

Emma Wools at Cardiff City Football Club Community Foundation

Buddsoddi £125,000 i Ehangu’r Rhaglen “Premier League Kicks” i Gefnogi Pobl Ifanc Ledled De Cymru