Gwneud Plismona sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol – ‘Rhaglen Hyfforddi Lleoliad Haf’ Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools 

Rhaglen Hyfforddi Lleoliad Haf

Gwneud Plismona sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol – ‘Rhaglen Hyfforddi Lleoliad Haf’ Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools yn Sicrhau Bod y Gweithlu Wir yn Adlewyrchu’r Cymunedau Rydym yn eu Gwasanaethu 

Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder De Cymru – Blaenoriaeth 5: Plismona sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol – Rhaglen Hyfforddi Lleoliad Haf Gweithredu Cadarnhaol 

Llongyfarchiadau i Rayhana ac Ali, sef dau o Gyn-fyfyrwyr arbennig y Rhaglen Hyfforddi Lleoliad Haf!  

Cyflawni’r Weledigaeth 

Un o flaenoriaethau allweddol gweledigaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools yw creu De Cymru diogel, cyfiawn a chynhwysol i bawb. Ymrwymodd y Comisiynydd Emma Wools i ‘Raglen Hyfforddi Lleoliad Haf’, sef cynllun ar gyfer pobl ifanc o’n cymunedau i ddod a chael profiad o weithio yn Heddlu De Cymru dros yr haf.  

Mae’r Rhaglen Lleoliad yn rhoi dealltwriaeth unigryw i bobl ifanc ledled ein cymunedau o rôl a chyfrifoldebau eu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac mae hefyd yn rhoi profiad gwaith hanfodol iddynt a’r cyfle i wella eu cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.  

Wrth wraidd cred ac ymrwymiad y Comisiynydd i bobl De Cymru bod y gweithlu yn cynrychioli’r cymunedau amrywiol arbennig rydym yn eu gwasanaethu, mae Rhaglen Lleoliad y Comisiynydd yn gynllun gwerthfawr sy’n tynnu sylw at wahanol lwybrau mynediad i Heddlu De Cymru, gan anelu at ysbrydoli, annog, a pharatoi pobl ifanc o gymunedau amrywiol gyda’r nod hirdymor o gynyddu amrywiaeth ein gweithluoedd, gan helpu i wella’r gallu a’r capasiti i gyflawni perfformiad o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau amrywiol yn Ne Cymru.  

Croesawodd y Comisiynydd ddau Fyfyriwr i’w thîm dros fisoedd yr haf, a chafodd y ddau gyfleoedd i wella’n bersonol ac yn broffesiynol, i rwydweithio ag adrannau, myfyrwyr, a rhanddeiliaid gwahanol, adeiladu ar eu gwybodaeth am Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, plismona, a rolau ym maes plismona, a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol ar sail eu diddordebau. 

Cafodd pob un o’r 13 myfyriwr yn y Rhaglen fewnbwn ar gyfrifoldebau’r Comisiynydd, ei hanes, ei chefndir a’i sbardunau, a chawsant eu gwahodd i fynd i sesiwn ddatblygu am ei Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, sef y cyntaf o’i fath ledled Cymru a Lloegr. 

Dywedodd Ali a Rayhana:  

“Rwyf wedi cael dealltwriaeth glir o rôl y Comisiynydd, wedi meithrin sgiliau ymchwil a chyfathrebu, ac wedi magu hyder wrth gyfrannu at brosiectau sy’n cefnogi cymunedau lleol. Cawsom nifer o ddyddiau lle cawsom y cyfle i fynd allan mewn cymunedau gwahanol De Cymru a roddodd ddealltwriaeth glir i mi o bwysigrwydd y rôl hon.” 

“Yn ystod fy lleoliad, dysgais fod cyfrifoldebau’r Comisiynydd yn mynd ymhell y tu hwnt i ymgysylltu â chymunedau. Bob tro y gwnaethom gwrdd â thimau gwahanol sy’n gweithio ar flaenoriaethau Emma, gwnaethant annog ein safbwyntiau a’n barn ar eu syniadau a’u cynigion. Roedd hyn yn gwneud i mi deimlo bod ein lleisiau wir yn bwysig iddynt ac roedd yn tynnu sylw at eu hymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau o bob oedran, hil, a chefndir”.   

Dywedodd y Comisiynydd:  

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Rayhana ac Ali am eu gwaith anhygoel yn gweithio yn fy swyddfa dros yr haf, roedd yn wirioneddol ysbrydoledig gweld eu hymrwymiad a’u hymroddiad i ddysgu a chael profiad o’r byd gwaith yn ystod eu gwyliau haf! Llongyfarchiadau i chi’ch dau, rydym i gyd yn falch ohonoch chi!  

Rwy’n ymrwymedig i ddefnyddio fy rôl fel eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i gefnogi plant a phobl ifanc i ymdrechu a chyrraedd eu potensial, a’r Rhaglen Lleoliad Haf yw’r math o gynllun rwyf am ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod ein Heddlu yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Yn hollbwysig, rwyf am sicrhau bod pobl ifanc o’n cymunedau ledled De Cymru yn gallu gwneud cais, dysgu, a chael profiad o’r hyn y mae gweithio i Heddlu De Cymru yn ei olygu. Bydd hyn yn cynnwys gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth a chael profiad pwysig iawn ar gyfer eu teithiau personol eu hunain.” 

Dywedodd y Rheolwr Gweithredu Cadarnhaol: 

Nod y Rhaglen Lleoliad Haf oedd cynnig cyfle i’n cyfranogwyr ddeall cyfleoedd gyrfa ym maes plismona yn well, ac i gefnogi eu twf personol eu hunain yn ogystal â llywio dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.Yn ystod yr wyth wythnos, llwyddom i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i’n cyfranogwyr lleoliad gefnogi eu twf a magu eu hyder yn eu set sgiliau eu hunain.[Rydym] yn falch iawn o gynnig y cyfle â thâl hwn, gan gefnogi unigolion i wneud eu dewisiadau gyrfa eu hunain yn y dyfodol. 

I gael rhagor o wybodaeth:

Cymorth Gweithredu Cadarnhaol

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throeseddu De Cymru gyda aelodau o Ffocws ddiodefwyr De Cymru

Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn Dathlu 10 Mlynedd o Gefnogi Dioddefwyr

Violence Prevention Team Nurse standing outside emergency department

Ymchwil Newydd yn Cadarnhau Llwyddiant Timau Atal Trais mewn Adrannau Achosion Brys

The Cyber Helpline - ENG

Hyfforddiant Seiberstelcio ac Achosion o Gam-Drin a Hwylusir gan Dechnoleg